Mae awdur o Lan Ffestiniog yn taclo pynciau digon anodd yn ei nofel gynta’ – ac yn gobeithio y bydd hi’n taro tant gyda “millennials” Cymraeg…

Yn ei nofel gyntaf i oedolion, Twll Bach yn y Niwl, mae Llio Maddocks yn tywys ei phrif gymeriad, Lowri, i sefyllfaoedd go dywyll.