Rargol, mae pobl yn dweud pethau twp.

Ac ymhlith y pechaduriaid gwaethaf yn hyn o beth mae newyddiadurwyr y Daily Mail.

Un o’r enghreifftiau diweddaraf oedd erthygl gan Dan Hodges dros y penwythnos, lle’r aeth ar ymweliad â Chymru, gwlad mae’n ei disgrifio’n “land of fear and twitching curtains” yn sgil y cyfnod atal mae ein Llywodraeth wedi ei gyflwyno er mwyn ceisio atal lledaeniad COVID-19.