Difyr a diddorol oedd yr ymateb i fy erthygl am Radio Cymru (‘Radio Cymru: arlwy siomedig’ yn Golwg 3/09/20).

A braf oedd gweld cymaint yn amddiffyn yr orsaf. Wedi’r cyfan, ein gorsaf ni yw hon – y Cymry Cymraeg. Mae’n bwysig, felly, ein bod yn ei hamddiffyn.

Er hynny, rwyf am ddal fy nhir. Canys nid da lle gellir gwell.