Uchelgais sy’n gyrru pêl-droed. Mae pob clwb eisiau sgorio goliau er mwyn ennill pwyntiau sydd yn codi’r tîm yn uwch yn y gynghrair. Gyda chanlyniadau da, mae’r clwb yn gallu dringo i gynghrair uwch, i chwarae yn erbyn timau a chlybiau o safon uwch. Mae pob cefnogwr eisiau gweld cynnydd. Dyna beth sydd yn eu cadw nhw i fynd wythnos ar ôl wythnos. Heb uchelgais, beth yw pwynt cystadlu?