Deffrodd Ifan y bore ar ôl etholiadau’r Unol Daleithiau, a’r peth cyntaf a ddaeth i’w feddwl oedd: Dydw i ddim yn gwybod enw arlywydd Niger.

Roedd o wedi meddwl aros ar ei draed i wylio’r canlyniadau yn cael eu datgelu bob yn dipyn, y taleithiau a’u corneli’n onglau perffaith yn troi’n un lliw neu’r llall. Ond mynd i’r gwely wnaeth o yn y diwedd, chwilio ar twitter am unrhyw newyddion am awr neu ddwy, cyn cael ei suo i drwmgwsg gan y golau ar sgrin yr iphone.