Mae’r ffaith fod degau o filoedd o Gymry wedi arwyddo deiseb yn gofyn am yr hawl i siopa fel y mynnan nhw – yn sgil y cyfnod clo dros dro yn destun pryder, yn ôl Euros Lewis sy’n rhan o broject i greu gwell yfory…

Mi ddylai’r ffaith fod 60,000 o bobol Cymru wedi codi llais yn erbyn cyfyngu dros dro ar eu hawliau prynu wneud rhywbeth mwy na’n synnu. Mi ddylai godi ofn.