Mae dyn o Sir Fôn wedi dyfeisio peiriant sy’n gallu adnabod gwahanol fathau o ystlumod yn ôl eu sŵn, ac yn gobeithio ei addasu i fedru adnabod dolffiniaid a morloi.

Yn wreiddiol o Ddyfnaint, mae Patrick Whetman yn mynd dan yr enw ‘Tegwyn Twmffat’ yn y byd ar-lein.