Mi fyddai’n “drychineb” pe bai’r cwrs gradd Theatr a Drama cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol De Caerdydd yn dod i ben. Dyna farn un o gyn-fyfyrwyr y cwrs sy’n Gyfarwyddwr Drama adnabyddus.

Fe gafodd nifer o gyn-fyfyrwyr wybod yr wythnos ddiwetha’ gan arweinwyr y cwrs ei fod o dan fygythiad, er nad ydyn nhw wedi cael gwybod hynny yn swyddogol eto gan y Brifysgol.