Mae rhagfarnau a gwahaniaethu yn erbyn pobol hŷn wedi eu “dwyn i’r amlwg” yn ystod yr argyfwng covid, yn ôl Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru.

Dengys ymchwil elusen AgeCymru bod llawer o bobol oedrannus yng Nghymru yn teimlo bod cymdeithas wedi “cefnu” arnyn nhw ar ddechrau’r argyfwng.

Wnaeth dau draean o’r grŵp oedran yma gael trafferth gyda mynediad at wasanaethau iechyd, gyda 78% yn dweud mai’r her fwyaf oedd methu gweld ffrindiau a theulu.