Ers blynyddoedd bellach, y peth mwyaf dychrynllyd ym mywyd Sally ydi drws ffrynt ei chartref.

Yma, yn Eastepoint, Detroit, mae ei sgwâr bach hi’n sâff. Tŷ un llawr, un llofft, a’r gegin yn fawr a’r waliau i gyd bron yn wyn, fel gwm cnoi wedi ei sathru i balmant. Mae’r teledu yn llenwi wal y lolfa fel ffenest i uffern. Drwy sgrin y teledu y mae Sally’n gweld y byd tu allan, ac mae o’n afiach.

Beth i’w ofni fwyaf?