Mae’r gohebydd chwaraeon, Gareth Rhys Owen, yn dweud y bydd absenoldeb Geraint Thomas o’r Tour de France eleni’n “rhwystredigaeth, yn siom aruthrol ac yn greulon” i rai.

Ond ar y llaw arall, meddai, pe bai’n ennill y Giro d’Italia yn yr Hydref, byddai modd “meddwl nad oedd e’n benderfyniad mor wael â hynny o ystyried beth ddilynodd”.