Sut fyddwn ni’n dod ynghyd dros y gaeaf?
Mae Bro360 wedi bod yn cydweithio â Radio Beca i gynnal sgyrsiau Prosiect Fory dros yr haf – sgyrsiau sy’n gwahodd pobol ar lawr gwlad i ddychmygu sut gymdeithas ry’n ni am ei gweld wedi’r argyfwng.
Un o bryderon mawr pobol yw gallu ac awydd mudiadau i ailddechrau, oherwydd y cyfyngiadau. Rydym am helpu cymdeithasau lleol i ffindio ffordd o ailgydio mewn pethau, er lles ein diwylliant a’n cymunedau, ac mae angen eich help chi, aelodau mudiadau a chlybiau ledled Cymru. Ewch i bro360.cymru cyn diwedd Awst i lenwi holiadur byr am eich cynlluniau a’ch gobeithion.
Dyma flas o’r fideos, blogs a’r erthyglau sydd wedi’u cyhoeddi gan bobol ar eu gwefan fro dros yr wythnos ddiwethaf…
***
Ailagor Llwybr Llên
Mae un o lwybrau mwyaf poblogaidd ardal gogledd Ceredigion wedi ailagor yn dilyn effaith niweidiol nifer o stormydd.
“Crëwyd y llwybr fel dathliad parhaol o’r enw hyfryd Llanfihangel Genau’r Glyn ac fel cydnabyddiaeth o draddodiad barddol y fro,” medd Wynne Mel.
Ewch i BroAber360 i ddod o hyd i’r llwybr ac i ddarllen ychydig o’i hanes.
***
Pobol y Dref – Waseem Khan
“Ffrindia fi gyd yn dre’. Bob un ohonan ni’n byw’n agos i’n gilydd. A fi oedd yr unig Asian.”
Mae Waseem Khan yn ‘Gofi Dre’ go-iawn, ac er ei fod wedi symud i fyw yn Rochdale ers chwe blynedd, mae’n dal i siarad Cymraeg yn rheolaidd. Dyma fideo sy’n rhoi darlun o’i fywyd a’i hunaniaeth.
***
Straeon bro poblogaidd yr wythnos