Y cwestiwn mawr o sawl cyfeiriad ydi… be yn y byd sy’n digwydd??
Holi hyn i Lywodraeth Cymru y mae Royston Jones wrth edrych ar duedd newydd y mae o’n ei gweld… eco-goloneiddio… y defnydd o ymgyrchu amgylcheddol i feddiannu rhannau o Gymru…
“…cwmnïau o’r tu fas i Gymru yn adeiladu ffermydd gwynt, peiriannau ynni’r tonnau a chyfleusterau eraill sy’n cynnig fawr ddim swyddi i bobol Gymreig ac yn cyfrannu dim neu fawr ddim at economi Cymru… eco-filwyr o amrywiol liwiau, gan gynnwys ‘ail-wylltwyr’, hefyd o’r tu fas i Gymru yn mynnu tir a chyllid i weithredu cynlluniau sy’n aml yn wallgo’ ac yn gweithio yn erbyn buddiannau pobol Cymru a’u cymunedau…” (jacothenorth)
A holi am chwalfa’r arholi y mae llefarydd addysg Plaid Cymru, Siân Gwenllïan…
“Beth yn union oedd y berthynas rhwng CBAC [y Cyd-bwyllgor Addysg gynt] a Chymwysterau Cymru a’r Adran Addysg yn Llywodraeth Cymru? Pwy o ddifri oedd yn arwain ar y penderfyniad i fabwysiadu’r algorithm? A beth am Ofqual yn Lloegr? Ai dim ond dilyn eu harweiniad yr oedd Cymwysterau Cymru yn hytrach na gwneud yr hyn oedd yn wirioneddol well i bobol ifanc Cymru?” (nation.cymru)
A Victoria Winckler ar bevanfoundation.org yn awgrymu rhai o’r atebion…
“…rhaid i ysgolion, athrawon, cyrff arholi, rheoleiddwyr a llywodraethau wneud llawer mwy – rhaid iddyn nhw wneud yn siŵr fod y cyhoedd a myfyrwyr yn ymddiried yn y system a’i bod yn deg ag yn adlewyrchu eu hymdrechion unigol yn y dyfodol. Gallai hynny olygu mwy o dryloywder ynghylch asesu arholiadau a rhoi graddfeydd.”
Holi am allu cyn-weinidogion llywodraeth i gael swyddi ymgynghorol bras gyda chwmnïau preifat y mae Glyn Beddau… yn enwedig cyn-Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns…
“Fyddwn i ddim yn ymddiried yn Alun Cairns i fy nghynghori sut i wneud paned o de. Ei unig bwynt gwerthu yw ei fod yn AS Torïaidd gyda chysylltiadau â chanol llywodraeth. Yn ystod unrhyw ryfel, fe fydd gwleidyddion, budr-elwyr a sbifs yn gwneud yn dda. Y gwahaniaeth yw fod rhai budr-elwyr a sbifs yn landio yn y carchar tra bod gwleidyddion yn landio ar Fyrddau Cwmnïau a gallan nhw a’u talwyr orffen yn Nhŷ’r Arglwyddi.” (nationalleft.blogspot.com)
Ac, yn ola’, y cwestiwn mawr: be fydd yn digwydd i Gymru? Mi fachodd John Dixon ar sylwadau gan un o weinidogion Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles, yn sôn fod chwalfa’r Deyrnas Unedig yn “cyflymu”…
“Mae ‘cyflymu’ yn awgrymu’n glir… mai’r unig beth sydd o fewn gallu gwleidyddion unoliaethol i’w reoli yw cyflymder y broses o chwalu’r undeb… yn amlwg mae yna gydnabyddiaeth gynyddol ymhlith [aelodau Llywodraeth Cymru] nid yn unig fod annibyniaeth yr Alban yn dod yn fwy tebygol oherwydd gweithredodd llywodraeth genedlaetholgar Seisnig yn San Steffan, ond hefyd fod ymateb ansensitif San Steffan, gyda chred ymddangosiadol mai’r ateb yw ‘rhagor o Boris’ a rhagor o Jac yr Undeb, yn gwaethygu’r broblem.” (borthlas.blogspot.com)