“Dydw i ddim eisiau byw mewn gwlad sy’n chwerthin am ben plentyn 16 oed yn boddi.”

Roedd honno’n frawddeg gan rywun ar Twitter yr wythnos ddiwethaf, ac yn un a gafodd ei haildrydar yn aml yn ystod yr wythnos.

Ymateb oedd hyn i’r newyddion bod ffoadur o Swdan wedi boddi wrth geisio croesi’r môr rhwng Ffrainc a Phrydain – a’r ffaith bod llawer o ddarllenwyr papur newydd y Daily Mail wedi ysgrifennu sylwadau ffiaidd ar ddalen Facebook y papur yn gwneud sbort am y farwolaeth.