Roedd Sgandal Windrush yn “un y gellid bod wedi ei ragweld a’i osgoi’ a chafodd pobl eu gadael i lawr gan “fethiannau systemig” yn y Swyddfa Gartref, yn ôl adroddiad annibynnol newydd.

Roedd yr adran o’r llywodraeth wedi dangos “anwybodaeth a diffyg meddwl sefydliadol” tuag at hil a hanes cenhedlaeth Windrush, meddai’r adroddiad, er nad yw’n cyhuddo’r Swyddfa Gartref o ddangos holl nodweddion hiliaeth sefydliadol.

Dywed yr awdur Wendy Williams: “Roedd rhybuddion o’r tu mewn a’r tu allan i’r Swyddfa Gartref yno am nifer o flynyddoedd, a hyd yn oed pan ddechreuodd straeon ymddangos yn y cyfryngau am anghyfiawnderau yn 2017, dw i wedi dod i’r casgliad bod y Swyddfa Gartref wedi ymateb yn araf.

“Dwi’n credu fod yno ddiwylliant o anghrediniaeth ac esgeulustod wrth ddelio â cheisiadau.”

Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu wedi i bobol oedd â hawl i fyw yn y Deyrnas Unedig gael eu cadw yn y ddalfa neu eu allgludo i’r Caribî.

Mae’r adroddiad yn galw ar weinidogion y Swyddfa Gartref i gyfaddef eu bod wedi achosi niwed difrifol i ddinasyddion Prydeinig ac i gynnig “ymddiheuriad diamod” i’r sawl gafodd eu heffeithio.

Darganfu’r adran 164 o bobl oedd wedi cael eu allgludo neu eu dal mewn dalfa ers 2002 yn sgil sgandal Windrush.

Cafodd cynllun iawndal gyda chyllideb o leiaf £200 miliwn wedi cael ei sefydlu.

Ond fis diwethaf, cwynodd ymgyrchwyr am y nifer “bychan” o bobl sydd wedi derbyn taliadau hyd yma gan ddweud bod y broses yn “araf a beichus.”

Cafodd cyfanswm o £62,198 ei dalu allan flwyddyn ddiwethaf a’i rannu rhwng 36 o bobl, er bod yr adran wedi derbyn dros 1,000 o geisiadau hyd yma.