Mae 24 yn rhagor o achosion o’r coronafeirws wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru, gan godi’r cyfanswm i 170.

Wrth gyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru, dywedodd Dr Robin Howe, Cyfarwyddwr Digwyddiadau Coronafeirws, fod y gwir nifer yn debygol o fod yn uwch.

“Mae’r Coronafeirws (COVID-19) bellach yn cylchredeg ym mhob rhan o Gymru, a chaiff hyn ei adlewyrchu ym mhenderfyniad Llywodraeth Cymru ddoe i gau ysgolion yng Nghymru,” meddai.

Ychwanegodd mai’r bwriad yw profi mwy o bobl yn fuan.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru i ddatblygu systemau fel bod profion ar gael i’r Gwasanaeth Iechyd a’r cyhoedd,” meddai.

“Mae blaenoriaeth am brofion ar hyn o bryd i gleifion a gweithwyr gofal iechyd, ac wrth i’n capasiti profi gynyddu, bydd mwy o ganllawiau’n cael eu cyhoeddi ar pwy sy’n gymwys am brawf.”

Mae dau glaf wedi marw yng Nghymru o blith y cyfanswm o 170 o achosoion.