Mae llywodraeth yr Alban wedi cadarnhau na fydd yn ceisio cynnal refferendwm annibyniaeth yn 2020, yn sgil coronafeirws.
Roedd llywodraeth yr SNP yn Holyrood eisiau cynnal pleidlais ar annibyniaeth yn 2020, gan ennill pleidlais yn y senedd fis Ionawr yn galw am refferendwm, er bod llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod rhoi’r pwerau iddynt i gynnal un.
Fodd bynnag, mae Ysgrifennydd Cysylltiadau Cyfansoddiadol yr Alban, Mike Russell wedi ysgrifennu ar Michael Gove, Gweinidog Swyddfa’r Cabinet yn Llundain, i ddweud bod cynlluniau ar gyfer pleidlais arall wedi ei ohirio yn sgil effaith “digynsail” coronafeirws.
Mae Mike Russell hefyd wedi annog llywodraeth y Deyrnas Unedig i ohirio trafodaethau Brexit gyda’r Undeb Ewropeaidd am o leiaf chwe mis.
Yn ei lythyr, dywed Mike Russell: “Oherwydd yr argyfwng, mae llywodraeth yr Alban wedi rhoi saib ar baratoadau ar gyfer ail refferendwm annibyniaeth eleni.
“Rydym hefyd wedi ysgrifennu at y Comisiwn Etholiadol i’w gwneud hi’n glir nad ydym yn disgwyl iddo ymgymryd â phrofi cwestiwn refferendwm tan mae amgylchiadau iechyd cyhoeddus yn caniatau gweithgaredd o’r fath.”