Mae Cadeirydd newydd S4C gam yn nes at gael ei benodi yn dilyn dyfarniad gan un o bwyllgorau San Steffan.

Aelod o Fwrdd anweithredol y darlledwr, Rhodri Williams yw’r unig geffyl yn y ras, ac ef hefyd yw’r ymgeisydd sy’n cael ei ffafrio gan Lywodraeth San Steffan.

Ac yn dilyn sesiwn gwrandawiad mae’r Pwyllgor Materion Cymreig wedi argymell y dylai’r Ysgrifennydd Gwladol tros Ddiwylliant, Oliver Dowden, ei benodi i’r rôl.

Wrth gyhoeddi’r penderfyniad mae Cadeirydd y Pwyllgor, yr Aelod Seneddol Stephen Crabb, wedi canu clodydd yr ymgeisydd.

“Gwnaeth cyfraniad Mr Williams argraff dda arnom ac rydym yn sicr y bydd yn medru goruchwylio unrhyw newidiadau i S4C a sicrhau bod y sianel yn ateb gofynion y dyfodol.

“Mae’n rhaid cymeradwyo ei angerdd dros yr iaith Gymraeg ynghyd â’i brofiad. Dymunwn bob lwc iddo ac edrychwn ymlaen at gael gweithio gyda Mr Williams yn y dyfodol.”

Y gadeiryddiaeth

Ildiodd Huw Jones yr awenau yn Gadeirydd ym mis Medi, wedi wyth mlynedd yn y rôl, ac roedd disgwyl y byddai olynydd yn cymryd ei le yn yr hydref.

Ond aros o hyd mae’r sianel Gymraeg, ac yn y cyfamser mae Hugh Hesketh Evans yn gwasanaethu’n Gadeirydd dros dro.

Mae Cadeirydd S4C yn derbyn cyflog o £40,000 y flwyddyn am ddau ddiwrnod o waith yr wythnos.

Gyrfa Rhodri Williams

Roedd Rhodri Williams yn Gyfarwyddwr ar Ofcom – y rheoleddiwr – yng Nghymru am 14 blynedd, ac roedd yn Gadeirydd ar Fwrdd yr Iaith rhwng 1999 a 2004.

Dechreuodd ei yrfa newyddiaduraeth gydag ITV, cyn sefydlu’r cwmni cynhyrchu, Agenda Television.