Mae’r Swyddfa Gartref wedi amddiffyn y penderfyniad ddegawdau’n ôl i ddifetha dogfennau teithio miloedd o fewnfudwyr.
Cafodd y mewnfudwyr cyntaf i gyrraedd gwledydd Prydain eu hadnabod fel cenhedlaeth ‘Windrush’. Ac fe wnaethon nhw osod cynsail ar gyfer hawl trigolion gwledydd y Gymanwlad i aros yng ngwledydd Prydain.
Yn ôl y Swyddfa Gartref, byddai cadw eu dogfennau cofrestru ar gofnod wedi torri rheolau diogelu data, ac fe gawson nhw eu difetha yn 2010.
Ond doedden nhw ddim yn cynnwys gwybodaeth am yr hawl i aros yng ngwledydd Prydain, meddai’r Swyddfa Gartref.
Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May – a hithau’n gyn-Ysgrifennydd Cartref – wedi amddiffyn y swyddfa hefyd, gan ddweud mai penderfyniad Asiantaeth y Ffiniau oedd difetha’r dogfennau pan gafodd staff eu symud o un swyddfa i’r llall.
Hawl unigolion
Dywedodd y Swyddfa Gartref fod penderfyniadau ynghylch hawl unigolion i aros yng ngwledydd Prydain yn aml yn ddibynnol ar gofnodion eraill fel cofnodion trethi, biliau nwy a thrydan a chytundebau llety.
Mae llefarydd materion cartref Llafur, Diane Abbott wedi galw ar yr Ysgrifennydd Cartref presennol, Amber Rudd i sicrhau mai cyfrifoldeb y Swyddfa Gartref, ac nid unigolion, yw profi hawl yr unigolyn i aros yng ngwledydd Prydain.
Mae hi hefyd wedi galw am eglurhad gan yr Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd.