Wrth i garnifal Notting Hill symud ar-lein am y tro cyntaf y penwythnos hwn, mae’r pennaeth wedi erfyn ar fynychwyr i aros oddi ar y strydoedd yno.
Mae’r carnifal wedi ei gynnal ar strydoedd Notting Hill a Kensington yn Llundain bob blwyddyn ers 1966, ac yn denu ryw ddwy filiwn a hanner o bobol ar benwythnos ola’ Awst.
Ym mis Mai daeth y cyhoeddiad fod y carnifal wedi ei ohirio, ac y byddai’r arlwy yn symud ar-lein, lle bydd dros 200 o fideos yn dangos dros 36 awr o adloniant.
Dywedodd Matthew Phillip, cyfarwyddwr gweithredol Carnifal Notting Hill, y dylai pobol fwynhau’r carnifal o gartref, gan barchu’r carnifal, y gymuned, a lles ac iechyd bobol sydd wedi’u heffeithio gan y pandemig.
“Er diogelwch pobol, y penderfynwyd gohirio’r carnifal, felly rydym yn erfyn ar bobl i gadw draw oddi wrth strydoedd Notting Hill dros y penwythnos,” meddai Matthew Phillip.
Cyfaddefodd y cyfarwyddwr gweithredol eu bod yn poeni y bydd pobol yn mynd i’r ardal eto eleni, ond eu bod yn gobeithio y bydd y cyhoedd yn gall a chyfrifol.
“Nid ydym am i ddim fygwth dyfodol y carnifal.”
Sefydlwyd y carnifal 54 yn ôl er mwyn uno pobol mewn amser o galedi, ac yn ôl Matthew Phillip mae’r carnifal yn bwysig er mwyn creu ymdeimlad o undod ymysg pobol.
Bydd Carnifal Notting Hill 2020: Access All Areas yn cynnwys fideos sydd wedi’u ffilmio ledled y byd, yn ogystal ag yn Llundain.