Mae Heddlu Dyfed Powys wedi dweud eu bod nhw’n monitro adroddiadau o ddigwyddiadau torfol sydd wedi eu trefnu ym Mhorth Tywyn ger Llanelli dros benwythnos Gŵyl y Banc.

Cafodd oddeutu 200 o bobol ifanc eu gorfodi i symud o’r ardal gan yr Heddlu yn ddiweddar.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddoe (Awst 28) ragor o bwerau i’r Heddlu yng Nghymru i atal digwyddiadau o’r fath – gallai trefnwyr hefyd wynebu dirwy o £10,000.

“Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i atal y digwyddiadau yma, ac rydyn ni’n gweithio gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain i geisio atal grwpiau mawr rhag teithio i Borth Tywyn ar y trên”, meddai llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys.

Mae’r Heddlu wedi apelio ar rieni a pherchnogion sefydliadau trwyddedig i fod yn wyliadwrus dros benwythnos Gŵyl y Banc.

“Rydyn ni hefyd yn gofyn i bobol yr ardal gysylltu os ydyn nhw’n gweld grwpiau mawr o bobol ifanc yn eu harddegau yn mynd tuag at y llwybr beicio neu’n cerdded arno”, ychwanegodd y llefarydd.

“Hoffem sicrhau pobol sy’n byw ym Mhorth Tywyn ein bod yn monitro’r sefyllfa’n agos, gan edrych ar yr holl wybodaeth a dderbyniwn, a byddwn yn gweithredu’n gyflym i atal digwyddiadau fel hyn.”