Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau bydd tîm saith bob ochr dynion Cymru yn dod i ben am gyfnod amhenodol oherwydd Covid-19.
“Yn anffodus, er ein bod wedi gweld rygbi rhanbarthol yn dychwelyd, mae’n annhebygol y byddai’r rhaglen saith bob ochr ar y lefel uchaf yn dychwelyd tan o leiaf Ebrill y flwyddyn nesaf”, meddai Cyfarwyddwr Perfformiad Undeb Rygbi Cymru, Ryan Jones.
“Mae realiti’r sefyllfa ariannol bresennol yn ei gwneud hi’n amhosibl i ni gynnal y tîm saith bob ochr.
“Bydd bod heb raglen saith bob ochr yn golled i’r gêm genedlaethol, ac oherwydd hyn, dydw i ddim yn ystyried y cyhoeddiad hwn fel diwedd rygbi saith bob ochr i Undeb Rygbi Cymru yn y tymor hir.”
Yn y gorffennol, mae’r tîm wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad chwaraewyr rhyngwladol fel Justin Tipuric a Rhys Webb.
Enillodd tîm saith bob ochr Cymru Gwpan Rygbi’r Byd saith bob ochr yn 2009.
Yn fwy diweddar, mae nifer o’i chwaraewyr wedi trosglwyddo’n llwyddiannus i rygbi rhanbarthol, tra bo’r tîm hefyd wedi bod o fudd wrth ddatblygu nifer o hyfforddwyr Cymreig.
Ond yn dilyn dechrau anodd i’w hymgyrch Cyfres Saith Bob Ochr Rygbi’r Byd 2019/20, roedd dynion Cymru yn y safle olaf pan ddaeth y tymor i ben yn gynnar oherwydd y coronaferiws fis Mawrth.