Mae tîm criced Morgannwg wedi ennill eu gêm gyntaf yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast, gyda buddugoliaeth o 15 rhediad dros Swydd Gaerloyw ym Mryste.

Mae’r diolch yn bennaf i’r ddau droellwr, Andrew Salter a Prem Sisodiya ar ôl i’r capten Chris Cooke daro 51 heb fod allan i osod y seiliau.

Cipiodd Salter bedair wiced am 20, tra bo Sisodiya wedi gorffen gydag un am 12.

Manylion y gêm

Doedd ymdrechion Morgannwg gyda’r bat ddim yn edrych yn ddigonol ar ddiwedd y batiad, wrth iddyn nhw sgorio 150 am saith yn eu hugain pelawd, wrth i Ryan Higgins, y bowliwr lled gyflym, gipio tair wiced am 29.

40 am ddwy oedd eu sgôr yn niwedd y cyfnod clatsio ar ôl i’r arbrawf o ddyrchafu Dan Douthwaite i frig y batiad fethu wrth i Matt Taylor daro’i goes o flaen y wiced, ac fe gollon nhw’r Gwyddel Andrew Balbirnie cyn diwedd y cyfnod hefyd wrth iddo fachu Ryan Higgins i lawr ochr y goes.

Cipiodd Tom Smith a Graeme van Buuren ddwy wiced yr un, a van Buuren yn gorffen gydag un wiced am 20 yn ei bedair pelawd.

Collodd Morgannwg wiced allweddol Billy Root yn y degfed pelawd ac yntau wedi sgorio 29 oddi ar 31 o belenni wrth geisio cyflymu’r gyfradd sgorio a sgubo’n wrthol a chael ei ddal oddi ar van Buuren.

Cafodd Marchant de Lange ei fowlio a Kiran Carlson ei stympio i adael Morgannwg yn deilchion ar 88 am bump cyn i Chris Cooke a Callum Taylor ddod ynghyd i achub y batiad gyda phartneriaeth o 43 mewn pum pelawd.

Tarodd Taylor 23 oddi ar 20 o belenni tra bod Chris Cooke wedi taro ergydion i’r ffin wrth wynebu 35 o belenni i gyrraedd y garreg filltir.

Cwympodd dwy wiced yn niwedd y batiad, wrth i Forgannwg golli Taylor a Graham Wagg, ond roedd sgôr Morgannwg yn ddigon yn y pen draw wrth i’r tîm cartref gael eu bowlio allan am 135, er i Graeme van Buuren (53) a George Scott (33) frwydro’n galed i’r Saeson ar ôl i’w tîm lithro i 70 am chwech ar un adeg.

Cwrso’n ofer

Cafodd Morgannwg y dechrau gorau posib gyda’r bêl wrth droi at y troellwyr yn y cyfnod clatsio wrth i Swydd Gaerloyw gwrso 151 i ennill.

Ar ôl i Prem Sisodiya fowlio pelawd ddi-sgôr, daeth wiced oddi ar belen gyntaf Andrew Salter wrth fowlio Chris Dent.

Cafodd Miles Hammond ei ddal yn y cyfar yn ail belawd Sisodiya, ac roedd y Saeson mewn trafferthion ar chwech am ddwy.

Roedden nhw’n 13 am dair pan gafodd Ian Cockbain ei ddal ar ochr y goes i roi ail wiced i Salter ac erbyn diwedd y cyfnod clatsio, roedd yr ysgrifen ar y mur i Swydd Gaerloyw, oedd yn 24 am dair.

Daeth wiced arall i Salter wrth iddo fe daro coes Ryan Higgins o flaen y wiced, a’i dîm yn 29 am bedair wrth i’r capten Jack Taylor ddod i’r llain.

Ar ôl sgorio 17, tarodd James Bracey belen lac gan Salter i ochr y goes a chael ei ddal ar adeg pan oedd e’n dechrau edrych yn addawol.

Cafodd Jack Taylor ei ddal gan Cooke oddi ar fowlio Marchant de Lange wrth i Swydd Gaerloyw lithro ymhellach i 65 am chwech ac er i George Scott a Graeme van Buuren frwydro’n ddewr, y cyfan lwyddon nhw i’w wneud oedd rhoi llygedyn bach o obaith i’w tîm.

Roedd angen 21 ar y Saeson oddi ar belawd ola’r batiad gan Timm van der Gugten, ond bowliodd yr Iseldirwr yn gywir i sicrhau’r fuddugoliaeth lai cyfforddus nag y dylai fod wedi bod yn y pen draw wrth i van Buuren gael ei redeg allan a Scott ei ddal gan Wagg am 33.

Roedd gan Swydd Gaerloyw ormod o waith i’w wneud yn y pen draw, ac fe gollon nhw eu tair wiced olaf am 27 i gau pen y mwdwl ar yr ornest.

Bydd Morgannwg yn dychwelyd i Gaerdydd i herio Swydd Warwick brynhawn yfory (dydd Sul, Awst 30).

Ymateb Andrew Salter

“Roedden ni’n gallu gweld pan wnaethon ni fatio fod rhywfaint o afael yn y llain i’r troellwyr,” meddai Andrew Salter.

“Y nod y tymor hwn yw ceisio rhoi pwysau ar fatwyr y gwrthwynebwyr gyda dechrau tynn ac roedden ni’n teimlo mai ein bowlwyr araf oedd yn gallu cyflawni hynny orau.

“Fe wnaeth Prem Sisodiya yn wych wrth fowlio pelen ddi-sgôr i ddechrau.

“Fe wnes i drio dal y sêm i fyny mwy a gwneud i’r bêl ddal yn y llain ac fe weithiodd yn dda, ond bydd angen i ni fod yn hyblyg gyda’n tactegau a dw i’n sicr y bydd y bowlwyr sêm yn agor y bowlio mewn gemau eraill.

“Mae’n wych cael ennill ein gêm gyntaf yn y gystadleuaeth a gobeithio y gallwn ni gario’r momentwm ymlaen oherwydd mae’r gemau’n dod yn gyflym.”

Sgorfwrdd