Mae tîm criced Morgannwg wedi colli eu gêm gartref gyntaf yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast, wrth i’r Birmingham Bears eu trechu o chwe wiced yng Nghaerdydd.

Roedd perfformwyr y batwyr yn destun siom unwaith eto, er iddyn nhw alw’n gywir a phenderfynu batio.

Dim ond y capten Chris Cooke (72, ei sgôr T20 gorau erioed) gafodd sgôr o sylwedd, a hynny oddi ar 56 o belenni wrth daro pedwar pedwar a thri chwech.

Dan Douthwaite (15) oedd yr unig fatiwr arall i gael sgôr ffigurau dwbwl.

Ar ôl i Adam Hose daro 38 i’r ymwelwyr, oedd yn cwrso 141 i ennill, roedd Sam Hain (40 heb fod allan) yn dal wrth y llain pan sicrhaodd y tîm cartref fuddugoliaeth ddigon cyfforddus gyda saith pelen yn weddill o’r ornest.

Batiad siomedig Morgannwg

Roedd batwyr Morgannwg dan bwysau o’r dechrau’n deg wrth golli tair wiced yn y cyfnod clatsio.

Collodd Morgannwg eu wiced gyntaf oddi ar seithfed pelen y batiad wrth i Olly Stone ddarganfod ymyl bat Billy Root i roi daliad syml i’r wicedwr Michael Burgess.

Daeth ergyd yr un i’r ffin i Dan Douthwaite ac Andrew Balbirnie, y Gwyddel a gollodd ei wiced oddi ar y belen ganlynol wrth dynnu pelen gan Tim Bresnan at Adam Hose yn sgwâr ar ochr y goes.

Daeth rhywfaint o sefydlogrwydd wrth i Cooke gyrraedd y llain ac roedd Douthwaite yn edrych yn hyderus pan ergydiodd e ar gam at Jake Lintott, oedd yn chwarae ei gêm gyntaf, oddi ar fowlio Bresnan i adael Morgannwg yn 46 am dair erbyn diwedd y cyfnod clatsio.

Daeth llwyddiant pellach i’r ymwelwyr wrth droi at y troellwyr Jeetan Patel a Jake Lintott, wrth i Patel fowlio Kiran Carlson, a Morgannwg yn 61 am bedair yn y nawfed pelawd.

Cafodd Marchant de Lange ei ollwng yn y slip oddi ar fowlio Lintott cyn iddo fe a Cooke daro chwech yr un oddi ar fowlio Patel.

Ond Lintott gafodd wiced fawr de Lange wrth iddo ergydio i ochr y goes a chael ei ddal gan Hose.

Cafodd Callum Taylor ei ddal i lawr ochr y goes wedyn gan Bresnan oddi ar fowlio Stone cyn i Forgannwg gyrraedd y cant gyda Cooke a Graham Wagg wrth y llain.

Tarodd Cooke ddau chwech oddi ar Patel a Bresnan mewn pelawdau olynol cyn i Wagg gael ei ddal yn syth gan y naill ar y ffin ochr agored oddi ar fowlio’r llall.

Parhau i frwydro wnaeth Cooke cyn cael ei ddal yn syth ar ochr y goes gan Patel oddi ar fowlio Harry Brookes, a’r sgôr erbyn hynny’n 132 am wyth ar ddechrau’r belawd olaf.

Cafodd Timm van der Gugten ei redeg allan gan Hose cyn i Forgannwg orffen ar 140 am naw.

Yr ymwelwyr yn cwrso

Dechreuodd yr ymwelwyr yn wael wrth golli wiced yn y belawd gyntaf, pan darodd Prem Sisodiya, y troellwr llaw chwith, goes Ed Pollock o flaen y wiced oddi ar ei ail belen.

Tarodd Hose bedwar a chwech oddi ar y troellwr arall Andrew Salter cyn cael ei ollwng yn y gyli ar 14, ac fe aeth yn ei flaen i daro ergydion i bob cyfeiriad wrth gael cefnogaeth Ian Bell am yr ail wiced.

Adeiladon nhw bartneriaeth o 64 mewn 8.2 pelawd cyn i Marchant de Lange fowlio Hose, ac fe ddilynodd Bell yn y belawd ganlynol wrth i belen lac gan Salter lanio yn nwylo Root ar ochr y goes.

35 yn unig oedd eu hangen ar yr ymwelwyr erbyn hanner ffordd yn eu batiad ond ar ôl colli Will Rhodes, a gafodd ei fowlio gan Douthwaite am 16, cododd y gyfradd angenrheidiol fymryn.

Roedd angen 18 oddi ar y ddwy belawd olaf, ond chwalodd Timm van der Gugten dan bwysau a chael ei daro am 22 oddi ar bum pelen, gan gynnwys pelen anghyfreithlon a gafodd ei tharo am chwech i ddod â’r ornest i ben.

“20 rhediad yn brin” – Chris Cooke

Yn ôl y capten Chris Cooke, roedd Morgannwg 20 rhediad yn brin o sgôr cystadleuol.

“Roedden ni 20 rhediad yn brin ac fe ddylen ni fod wedi gwneud yn well,” meddai.

“Ac wedyn, bron iawn ag ennill gyda bowliwr yn brin [cafodd Graham Wagg ei anafu], roedd hynny’n ymdrech dda gan y bowlwyr a’r maeswyr.

“Rhaid i ni feddu ar fwy o ddisgyblaeth wrth fatio.

“Pryd bynnag ddechreuon ni adeiladu partneriaeth, fe gollon ni wiced, a rhaid i ni wella ar hynny.”