Mae pedwar chwaraewr wedi tynnu’n ôl o garfan bêl-droed Cymru ar drothwy’r gemau yn erbyn y Ffindir a Bwlgaria yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Mae Aaron Ramsey, David Brooks a Tyler Roberts wedi anafu, tra bod Ashley Williams allan am resymau personol.

Mae Ben Woodburn a Brennan Johnson wedi cael eu galw i’r brif garfan ar ôl cael eu cynnwys yn wreiddiol yn y garfan dan 21.

Bydd Cymru’n herio’r Ffindir yn Helsinki ar Fedi 3, cyn croesawu Bwlgaria i Gaerdydd dridiau’n ddiweddarach.