Mae’r Cymro Mark Bowen wedi gadael Clwb Pêl-droed Reading.

Symudodd o’i swydd yn Gyfarwyddwr Pêl-droed i reoli’r tîm ym mis Hydref, gan sicrhau perfformiad gorau’r tîm yn y gynghrair ers tri thymor gan orffen yn bedweryd ar ddeg yn y Bencampwriaeth, ac roedd disgwyl iddo ddychwelyd i’w swydd flaenorol yn dilyn penodi Veljko Paunovic yn rheolwr yr wythnos hon.

Ond daeth cadarnhad neithiwr (nos Lun, Awst 31) ei fod e bellach wedi gadael y clwb ar ôl gwrthod y cynnig i aros mewn swydd arall.

Mae’r perchennog Dai Yongge wedi diolch iddo am ei “waith caled” a’i “ymrwymiad” i’r clwb “cyn, yn ystod ac ar ôl sefyllfa cyfnod clo’r byd pêl-droed”.