Mae Ryan Giggs yn dweud y bydd Daniel James yn elwa o gael amser i ffwrdd o Manchester United yr wythnos hon, ac yn dychwelyd yn gryfach, wrth i Gymru baratoi i herio’r Ffindir a Bwlgaria yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Symudodd yr asgellwr o Abertawe i Old Trafford am £18m fis Mehefin y llynedd, gan sgorio tair gôl yn ei bedair gêm gyntaf.

Ond un gôl sgoriodd e wedyn yn ei 42 gêm nesaf.

Dim ond un gêm ddechreuodd e ar ôl i bêl-droed ddychwelyd ar ôl ymlediad y coronafeirws ym mis Mehefin, ac mae wedi’i feirniadu’n helaeth ar y cyfryngau cymdeithasol yn sgil ei berfformiadau.

“Wnaeth Dan ddim chwarae cymaint tua diwedd y tymor diwethaf ond weithiau, yn y tymor hir gall hynny eich helpu chi,” meddai Ryan Giggs.

“Mae’n bosib na fydd e’n hoffi [bod allan o’r tîm] a’i fod e eisiau bod ynghlwm.

“Ond o nabod Dan, y ffordd mae e’n ymarfer a’i agwedd, fe ddaw e drwyddi a bod yn well o’r herwydd.

“Gallwch chi gael persbectif gwahanol ar bethau.”

Chwarae dros Gymru

Chwaraeodd Daniel James ym mhob gêm wrth i Gymru gymhwyso ar gyfer Ewro 2020, a fydd yn cael ei chynnal y flwyddyn nesaf ar ôl cael ei gohirio yn sgil y coronafeirws.

Ond roedd amheuon a fyddai’n dechrau’r gemau yr wythnos hon cyn i David Brooks gael ei anafu.

Mae disgwyl bellach iddo fod yn y llinell flaen gyda Gareth Bale a Kieffer Moore.

“Dw i’n credu weithiau, o ran chwaraewyr sydd ddim o reidrwydd yn chwarae drwy’r amser i’w clybiau, mae’n rhoi cyfle iddyn nhw gael munudau,” meddai Giggs.

“Mae’n gyfle iddyn nhw geisio perfformio’n well er mwyn dychwelyd i’w clybiau a dangos iddyn nhw beth maen nhw’n gallu’i wneud.

“Efallai bod DJ yn y garfan honno. Mae United yn dechrau wythnos yn ddiweddarach, ond bydd DJ yn mynd yno’n ffit ac yn ysu i ddechrau, dw i’n sicr o hynny.

“Mae e bob amser wedi bod yn wych wrth ddod i mewn i’r garfan, mae e bob amser wedi cyrraedd gyda’r meddylfryd iawn.”