Bydd Y Bala yn herio Standard Liege, sydd wedi ennill cynghrair Gwlad Belg ddeg o weithiau, yn rownd nesaf Cynghrair Ewropa.

Bydd Y Seintiau Newydd yn chwarae yn erbyn B36 Torshavn o Ynysoedd y Faroe a Cei Connah yn wynebu Dinamo Tbilisi o Georgia.

Llwyddodd Y Bala i gyrraedd yr ail rownd drwy drechu Valletta FC o 1-0, tra bod Y Seintiau Newydd wedi curo MSK Milina o 3-1 ar ôl amser ychwanegol.

Mae Cei Connah wedi disgyn o Gynghrair y Pencampwyr i Gynghrair Ewropa ar ôl colli o 2-0 yn erbyn Sarajevo.

Dyma’r gemau fydd yn cael ei chwarae yn yr ail rownd:

Cei Connah v Dinamo Tbilisi

B36 Torshavn v Y Seintiau Newydd

Y Bala v Standard Liege

Inter Escaldes v Dundalk

Linfield v Floriana

Coleraine v Motherwell

Viking v Aberdeen

Lokomotiv Plovdiv v Tottenham Hotspur

Lincoln Red Imps v Rangers

Shamrock Rovers v AC Milan