Roedd hi’n noson wych i glybiau Cymru yng Nghynghrair Ewropa wrth i’r Bala a’r Seintiau Newydd ennill eu gemau, gan symud ymlaen i’r ail rownd, lle mae Cei Connah hefyd yn yr het ar ôl colli yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Valletta FC 0 – 1 Y Bala

Dyma’r tro cyntaf yn hanes y Bala iddyn nhw gyrraedd yr ail rownd wrth i’r clwb drechu Valetta FC o Malta, gyda’r capten Chris Venables yn sgorio ar ôl 40 o funudau.

Dywedodd Colin Caton, Rheolwr y Bala, wrth Radio Wales: “Mae’n anghredadwy, achos maen nhw’n dîm llawn amser a’r clwb mwyaf yn Malta.

“A chyda’r cyfyngiadau dros y misoedd diwethaf, o ran hyfforddi, mae’r canlyniad yma yn ffantastig ac yn anghredadwy ar ôl cymaint o dor calon dros y blynyddoedd diweddar… felly mae cael mynd yn ein blaenau yn anghredadwy.

“Mae’r hyn rydan ni wedi gyflawni yn wych i bawb… nid dim ond i’r Bala, ond i bêl-droed Cymru.”

Y Seintiau Newydd 3 – 1 MSK Milina (wedi amser ychwanegol)

Mae rheolwr Y Seintiau Newydd, Scott Ruscoe, wedi dweud fod ei dîm wedi haeddu eu buddugoliaeth o dair gôl i un yn erbyn MŠK Žilina.

Aeth y Seintiau ar y blaen drwy gôl gan Louis Robles ar ôl 56 o funudau, cyn i MŠK Žilina sgorio o gic o’r smotyn gan fynd a’r gêm i amser ychwanegol.

Ond dynion Scott Ruscoe ddaeth allan yn gryfach wrth i Leo Smith sgorio ar ôl 100 o funudau i roi’r Seintiau yn ôl ar y blaen, ac fe sicrhaodd gic o’r smotyn gan Adrian Cieslewicz fuddugoliaeth enwog.

“Os ti’n edrych ar falans y chwarae, wnaethom ni ddim caniatáu iddyn nhw ein rhoi o dan bwysau, ddaru ni ddim eistedd yn ôl,” meddai Scott Ruscoe.

“Er ein bod ni wedi ildio gôl, fe wnaeth yr hogiau ddyfalbarhau a cheisio sgorio. Dw i’n meddwl ein bod ni wedi haeddu’r fuddugoliaeth.”

Mae cynhadledd i’r wasg Scott Ruscoe ar gael yn ei gyfanrwydd isod: