Dywedodd Harry Maguire, capten Manchester United, ei fod yn ofni am ei fywyd ac yn meddwl ei fod yn cael ei herwgipio wrth gael ei arestio yng Ngwlad Groeg.

Mae tîm cyfreithiol y chwaraewr rhyngwladol wedi cyflwyno apêl yn erbyn ei gollfarn am ymosod ar yr heddlu a cheisio llwgrwobrwyo yn dilyn digwyddiad ar ynys Mykonos.

Mae United wedi dweud bod yr apêl yn diddymu dyfarniad dydd Mawrth, lle cafodd ddedfryd o garchar am 21 mis wedi’i ohirio, ac yn golygu nad oes gan Maguire gofnod troseddol cyn yr ail achos.

“Ro’n i’n meddwl ein bod yn cael ein herwgipio. Aethon ni i lawr ar ein gliniau, rhoi ein dwylo yn yr awyr, dechreuon nhw ein bwrw ni,” meddai wrth BBC Sport.

“Roedden nhw’n taro fy nghoes yn dweud bod fy ngyrfa drosodd: ‘Dim mwy o bêl-droed. Fyddi di ddim yn chwarae eto’.

“Ac felly nes i feddwl does dim gobaith mai’r heddlu yw’r rhain… dydw i ddim yn gwybod pwy ydyn nhw… felly ceisiais redeg i ffwrdd. Roeddwn i mewn gymaint o banig, ofn… ro’n i’n ofni am fy mywyd yr holl ffordd drwyddo.”

Honnodd Maguire fod hyn wedi digwydd y tu allan i orsaf heddlu ar ôl iddo geisio mynd â’i chwaer fach, Daisy, i ysbyty oherwydd ei bod yn ymddangos ei bod yn colli ymwybyddiaeth ar ôl i ddau ddyn fynd ati.

Gwadodd y chwaraewr 27 oed ei fod wedi ceisio llwgrwobrwyo’r heddlu.

Pan ofynnwyd iddo am hynny, atebodd: “Na, yn sicr, na. Cyn gynted ag y gwelais y datganiad hwnnw… mae’n hurt.”

Cafodd amddiffynnydd drutaf y byd ei adael allan o garfan Lloegr gan Gareth Southgate, a hynny ar ôl cael ei gynnwys i ddechrau cyn ei gollfarn ddydd Mawrth.

Mae Maguire yn mynnu nad oes ganddo reswm i ymddiheuro am y digwyddiad yn oriau mân dydd Gwener yr wythnos ddiwethaf, ond mynegodd ofid iddo achosi embaras posibl i’w glwb.

‘Mae’n flin gennyf fod yn y sefyllfa’

“Roedd yn ofnadwy. Nid yw’n rhywbeth dwi eisiau ei wneud eto. Dydw i ddim yn dymuno hynny ar neb. Dyma’r tro cyntaf i mi fod y tu mewn i garchar erioed,” meddai.

“Dydw i ddim yn teimlo bod arna’ i ymddiheuriad i neb. Mae ymddiheuriad yn rhywbeth i’w wneud pan fyddwch chi wedi gwneud rhywbeth o’i le neu’n edifar amdano.

“Mae’n flin gennyf fod yn y sefyllfa… Rwy’n chwarae i un o’r clybiau mwyaf yn y byd, mae’n flin gen i roi’r cefnogwyr a’r clwb drwy hyn.

“Rwy’n credu y gallai hyn fod wedi digwydd yn unrhyw le. Dw i’n caru Gwlad Groeg, dw i’n credu ein bod ni, fel pêl-droedwyr, yn cael tipyn o stic am geisio aros i ffwrdd o bopeth. Nid dyna sut dwi eisiau byw fy mywyd.”

Nid yw cyn-chwaraewr Sheffield United, Hull a Chaerlŷr yn sicr y bydd yn parhau’n gapten ar United ond mae’n siŵr y “bydd y gwirionedd yn cael ei ddweud” yn yr ail achos.

“Mae’n fraint enfawr cael chwarae i’r clwb, heb sôn am fod yn gapten. Nid fy mhenderfyniad i yw hynny,” meddai.

“Rwy’n ymddiried yn fawr yng nghyfraith Gwlad Groeg, bydd yr ail achos yn rhoi mwy o amser i ni baratoi, casglu’r dystiolaeth, caniatáu tystion yn y llys. Ac rwy’n hyderus iawn y bydd y gwirionedd yn cael ei ddweud ac yn dod allan.”

Wrth siarad am y digwyddiad cychwynnol gyda’i chwaer, dywedodd Maguire: “Aeth y ddau ddyn yma at fy chwaer fach, a gofyn iddi o ble’r oedd hi’n dod.

“Ymatebodd ac yna dyma fy nghariad, Fern, yn gweld llygaid fy chwaer fach yn mynd i gefn ei phen. Rhedodd drosodd wrth iddi lewygu, roedd hi i mewn ac allan o ymwybyddiaeth.”