Mae gêm ugain pelawd gyntaf Morgannwg yn y Vitality Blast wedi dod i ben heb i’r un belen gael ei bowlio.

Swydd Gaerwrangon oedd yr ymwelwyr â Chaerdydd ar gyfer yr ornest heno (nos Iau, Awst 27), oedd i fod i gael ei chynnal am 6.30yh.

Ond yn dilyn glaw trwm drwy gydol y dydd, roedd y cae yn rhy wlyb a daeth y dyfarnwyr Jeff Evans a Jeremy Lloyds i’r penderfyniad i ganslo’r gêm yn dilyn dau archwiliad o’r cae.

Bydd Morgannwg yn teithio i Fryste i herio Swydd Gaerloyw ddydd Sadwrn (Awst 29), cyn croesawu’r Birmingham Bears i Gaerdydd ddydd Sul (Awst 30).