Mae’r dyfarnwr Nigel Owens wedi ei enwi’n Llywydd newydd Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc.

Yn dilyn pleidlais unfrydol cafodd ei ethol yn Llywydd yng Nghyfarfod Cyffredinol y ffederasiwn ar Awst 26.

“Mae’n anrhydedd cael fy ethol yn Llywydd Clybiau Ffederasiwn Cenedlaethol y Ffermwyr Ifanc”, meddai Nigel Owens.

Eglurodd fod y mudiad yn agos at ei galon ers yn ifanc – mae’n gyn ysgrifennydd a chadeirydd Clwb Ffermwyr Ifanc Llanarthne.

Bu hefyd yn lywydd ar Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru rhwng 2013-2014.

“Rwyf wedi bod yn ymwneud â Ffederasiwn Cymru ers blynyddoedd lawer felly mae’n gyffrous iawn nawr ymestyn fy mhrofiad i’r sefydliad ehangach”, meddai.

“Rwy’n angerddol am ffermio ac mae CFfI yn gam pwysig i lawer o bobol ifanc ddechrau neu ddatblygu eu gyrfaoedd yn y diwydiant hwn.”

‘Blwyddyn heriol’

Er hyn eglurodd y dyfarnwr rhyngwladol fod blwyddyn heriol yn wynebu’r ffederasiwn yn sgil y coronafeirws.

“Mae gan CFfI flwyddyn heriol o’u blaenau gydag effaith y pandemig yn newid y ffordd y maent yn gweithredu ond gobeithio y bydd fy etholiad yn cynnig rhywfaint o anogaeth a brwdfrydedd i glybiau.

“Bydd diffyg cyfarfodydd clybiau corfforol a chanslo ralïau a sioeau sirol oherwydd y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl.

“Rwy’n gwybod o fy mhrofiad fy hun o dyfu i fyny mewn ardal wledig, pa mor bwysig yw clybiau ffermwyr ifanc  ar gyfer darparu cysylltiadau a brwydro yn erbyn teimladau o unigedd – mae angen hyn nawr yn fwy nag erioed. ”

Cynrychioli aelodau CFfI ledled Cymru a Lloegr

Croesawodd Dewi Parry, Cadeirydd Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc y newyddion.

“Rydyn ni wrth ein bodd bod Nigel Owens wedi’i ethol yn Llywydd ac rydyn ni’n edrych ymlaen ato’n cynrychioli aelodau CFfI ledled Cymru a Lloegr”, meddai.

“Mae cysylltiadau ffermio Nigel a’i brofiad personol o fod yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc yn ei wneud yn ddewis perffaith i’n sefydliad.

“Dylai gyrfa drawiadol Nigel ysbrydoli eraill o gefndiroedd gwledig i ymdrechu i gyflawni eu gorau ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag ef.”