Mae ITV wedi cadarnhau y bydd y gyfres nesaf o ‘I’m A Celebrity…Get Me Out of Here!’ yn cael ei ffilmio yng nghastell Gwrych yn Abergele.
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn sïon mai yn y gogledd y byddai’r gyfres yn cael ei ffilmio, ac roedd cryn ddyfalu mai’r castell yn Abergele fyddai cartref newydd y gyfres.
Mae’r gyfres deledu boblogaidd ar ITV wedi’i lleoli yn Awstralia fel arfer, ond fe ddaw’r newid yn sgil y coronafeirws.
‘Dangos yr hyn sydd gan ogledd Cymru i’w gynnig’
Mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi croesawu’r dewis i ffilmio’r gyfres yn y gogledd.
“Rydym yn hynod falch o groesawu cynhyrchiad mor fawr i Gymru, sy’n cynnig cyfle i arddangos rhan ysblennydd o’n gwlad i gynulleidfa sylweddol ar draws y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Rydym yn edrych ymlaen i gydweithio gyda’r tîm ar y cynhyrchiad yma, gan obeithio gwneud yn fawr o’r cyfle i ddangos yr hyn sydd gan ogledd Cymru i’w gynnig.”
Bydd Ant a Dec yn cyflwyno fersiwn wedi’i haddasu o ‘I’m A Celebrity …Get Me Out Of Here!’ yn fyw o’r castell bob nos ar ITV yn yr hydref.
Un arall sy’n falch fod y gyfres yn dod i’r gogledd yw Dr Mark Baker, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych.
“Mae Castell Gwrych yn blasty hardd rhestredig Gradd 1, ac yn gyrchfan hanfodol i dwristiaid sy’n ymweld â Chymru,” meddai.
“Bydd cael ‘I’m A Celebrity’ yma yn hwb i’r Castell ac yn gymorth i’r ymdrechion parhaol i’w adfer yn ogystal â bod yn hwb economaidd i’r rhanbarth.”
‘O Dde Cymru Newydd yn Awstralia i ogledd Cymru’
“Tra bydd angen nifer o newidiadau wrth i ni symud o ‘Dde Cymru Newydd’ yn Awstralia i ogledd Cymru yn y Deyrnas Unedig, rydym yn hynod gyffrous i weld sut y byddwn yn gallu addasu’r fformat deledu gan wneud y Castell yn gartref newydd i ni fis Hydref yma ar gyfer yr ugeinfed gyfres arbennig iawn o ‘I’m A Celebrity…Get Me Out of Here!’,” meddai Richard Cowles, Cyfarwyddwr Adloniant ITV Studios.