Mae cynghorydd lleol yn Llangennech wedi diolch i’r gwasanaethau brys ac i’r gymuned leol am eu hymdrechion ar ôl i drên diesel fynd ar dân ar gyrion y pentref yn Sir Gaerfyrddin dros nos.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 11.20yh neithiwr (nos Fercher, Awst 26).

Llwyddodd dau o bobol oedd yn teithio ar y trên o gyfeiriad Aberdaugleddau i ddianc heb gael eu hanafu.

Eglurodd y Cynghorydd Gwyneth Thomas, a fu’n cynorthwyo pobol yr ardal, iddi gael galwad ffôn yn oriau mân y bore gan brif weithredwr y Cyngor Sir yn dweud bod damwain ddifrifol wedi digwydd ar y rheilffordd.

“Er difrifwch y sefyllfa yma yn Llangennech, mae wir wedi dangos y gorau o gymdeithas, a dyna sydd yn digwydd mewn argyfwng – roedd popeth yn drefnus, a phawb wedi tynnu at ei gilydd,” meddai wrth golwg360.

“Mi oedd hwn yn ddigwyddiad difrifol iawn, dwi wedi clywed fod hyd at ugain o gerbydau wedi dod bant o’r rheilffordd.”

Damwain Llangennech
Yr olygfa dros Langennech fore Iau (Awst 27) – Twitter: @Archie67893290

Gadael cartrefi o fewn 800m

Oherwydd y perygl o ffrwydrad ac y gallai’r tân ledaenu, bu’n rhaid i bobol oedd yn byw o fewn 800m i’r digwyddiad adael eu cartrefi yn oriau mân y bore.

“Dydy cael eich symud allan o’ch cartrefi yng nghanol y nos ddim yn brofiad pleserus i neb, ond roedd pawb yn cydweithio ac o gymorth i’w gilydd,” meddai Gwyneth Thomas.

“Mi oedd llawer wedi mynd at deulu a pherthnasau, ond mi oedd Ysgol y Bryn a Chanolfan Gymuned Llangennech ar gael i bobol gysgodi, a defnyddiwyd Ysgol Llangennech fel canolbwynt i’r gwasanaethau brys.

“Mawr yw’r diolch i’r prifathrawon a gofalwr y ganolfan gymuned am ymateb mor gyflym.”

Eglurodd y cynghorydd i bobol gael dychwelyd i’w cartrefi erbyn 4.30yb.

Damwain Llangennech

‘Gallai pethau fod wedi bod llawer gwaeth’

“Gallai pethau fod wedi bod llawer gwaeth pe bai’r ddamwain wedi digwydd yn agosach i orsaf Llangennech neu ganol y pentref – mewn gwirionedd, roedd y lleoliad wedi helpu i leihau’r problemau – a does neb wedi cael niwed difrifol,” meddai Gwyneth Thomas.

“Unwaith eto, rhaid i mi ddiolch i’r trigolion lleol, ac am broffesiynoldeb y gwasanaethau brys a weithiodd yn gyflym ac yn galed dros ben.”

Dywedodd Simon Jenkins, Pennaeth Ymateb Corfforaethol Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a’r Gorllewin:

“Hoffwn ddiolch yn fawr i’n criwiau, sydd wedi gweithio’n ddiflino i ymladd a chynnwys y tân mewn lleoliad heriol ac mewn amgylchiadau tywydd anodd. Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r gymuned leol am eu cefnogaeth a’u hamynedd, yn ystod cyfnod anodd iawn i breswylio a busnes lleol.”

Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd wedi cadarnhau nad oes trenau’n rhedeg ar Linell Calon Cymru ar hyn o bryd.