Mae’r gwasanaethau brys wedi bod yn ymateb i dân ar drên diesel yn Llangennech yn Sir Gaerfyrddin dros nos, ac mae pobol wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc cyn 11.20yh neithiwr (nos Fercher, Awst 26).

Roedd timau o Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a’r Gorllewin, Cyngor Sir Gâr a Chyfoeth Naturiol Cymru yno yn ystod y nos ac mae rhai yn dal ar y safle.

Bu’n rhaid i bobol o fewn 800m i’r tân adael eu cartrefi a mynd i’r ysgol a’r ganolfan gymunedol leol.

Llwyddodd dau o bobol i ddianc heb gael eu hanafu, ac fe aeth tri char ar dân.

Mae’r heddlu’n dweud bod hwn yn “ddigwyddiad mawr o ganlyniad i’r perygl o niwed i bobol sy’n byw yn yr ardal”.

Mae’r heddlu hefyd wedi diolch i drigolion lleol am eu hymateb i’r digwyddiad, yn ogystal â’r gwasanaethau brys.