Er bod undeb athrawon UCAC yn dweud eu bod nhw’n rhoi “croeso gofalus” i ddatganiad Llywodraeth Cymru am blant dros 11 oed yn gwisgo mygydau wyneb yn yr ysgol, maen nhw’n dweud bod y cyhoeddiad wedi dod “yn ddifrifol o hwyr”.
Yn ôl Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, byddai gwisgo mygydau’n lleihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws lle nad oes modd cadw pellter cymdeithasol.
Ond daeth y cyhoeddiad ddeuddydd yn unig cyn i ysgolion Cymru agor, ac mae UCAC yn weud ei bod yn “afresymol y bydd rhaid i benaethiaid ailedrych ar eu hasesiadau risg a’r holl ffactorau yn ymwneud â dysgwyr yn gwisgo a chadw’r gorchuddion wyneb tra ar dir yr ysgol ar y funud olaf”.
‘Hynod o siomedig’
“Rydym yn croesawu’r datganiad yma heddiw gan fod hyn yn un mesur ychwanegol er mwyn ceisio lleihau trosglwyddiad y feirws,” meddai Dilwyn Roberts Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC.
“Mae pryder gwirioneddol wedi bod ymysg ein haelodau sydd yn addysgu mewn ysgolion uwchradd ac mewn sefydliadau addysg bellach mai prin yw’r camau sydd wedi eu cymryd i liniaru’r risg o ddysgwyr dros 11 mlwydd oed yn trosglwyddo’r haint.
“Fodd bynnag, mae’n hynod o siomedig mai dim ond dau ddiwrnod cyn dechrau’r tymor y daw’r cyhoeddiad yma, gan y bydd yn rhaid i’n Penaethiaid ailedrych ar eu hasesiadau risg ac ar holl systemau diogelwch yr ysgol i wirio bod angen defnyddio gorchuddion wyneb a’u bod yn cael eu cadw wrth gyrraedd yr ystafell ddosbarth.
“Mae’n siom hefyd nad yw Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud hi’n orfodol gwisgo gorchuddion wyneb yn ein hysgolion gan ychwanegu cyfrifoldeb ychwanegol ar ein penaethiaid.
“Un mesur i geisio lleihau trosglwyddiad y feirws yw hyn, wrth gwrs, ac mae UCAC o’r farn ei fod yn holl bwysig fod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod pawb yn cadw pellter cymdeithasol a bod golchi dwylo rheolaidd yn dod yn arferiad yn ein hysgolion a’n colegau.
“Bydd UCAC yn parhau i fonitro’r sefyllfa yn genedlaethol ac yn rhanbarthol ac i drafod gyda llywodraethau cenedlaethol a lleol i sicrhau diogelwch aelodau.”