Mae’r plismon oedd wedi saethu dyn croenddu saith gwaith yn ei gefn yn Wisconsin wedi cael ei enwi wrth i’r protestiadau yn erbyn yr heddlu barhau.

Cafodd Jacob Blake ei saethu saith gwaith yn ei gefn gan Rusten Sheskey tra bod ei blant yng nghefn ei gar a thra roedd e’n gafael yn ei grys ar ôl i’r heddlu fethu â’i dawelu â gwn Taser.

Mae’r digwyddiad wedi arwain at ganslo gemau pêl-fasged wrth i chwaraewyr wrthod chwarae fel rhan o brotest yn erbyn y digwyddiad, ac fe wnaeth Naomi Osaka, chwaraewraig tenis, dynnu’n ôl o’i gêm gyn-derfynol mewn cystadleuaeth yn Efrog Newydd.

Cafodd llanc 17 oed ei arestio ar drydedd noson y protestiadau ar amheuaeth o ladd dau o bobol a gafodd eu saethu’n farw.

Cafodd Kyle Rittenhouse ei gludo i’r ddalfa ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn y digwyddiad a gafodd ei recordio ar ffôn symudol.

Cafodd un person ei saethu yn y pen a’r llall yn y frest, a chafodd person arall ei anafu.