Mae’r saethwr Awstraliadd wnaeth lofruddio 51 o bobol mewn ymosodiad mewn dau fosg yn Seland Newydd wedi cael ei ddedfrydu i fywyd yn y carchar heb unrhyw obaith o barôl.

Roedd Brenton Harrison Tarrant wedi pledio’n euog i lofruddio, ceisio llofruddio a brawychiaeth yn ystod achos llys yn Christchurch.

Dywedodd y barnwr Cameron Mander ei fod wedi achosi colled a phoen enfawr, oedd yn deillio o ideoleg wyrdroedig.

“Roedd dy weithredoedd yn annynol. Fe wnes di lofruddio plentyn tair oed yn fwriadol wrth iddo gydio i goes ei dad.”

Yn ystod y gwrandawiad dedfrydu, mae 90 o oroeswyr ac aelodau teuluoedd wedi siarad am yr ymosodiadau.

Roedd rhai wedi gweiddi arno a’i alw yn fwystfil, gydag eraill wedi canu penillion o’r Quran, tra bod ambell un wedi dweud eu bod yn maddau iddo.

Dywedodd Philip Hall, cyfreithiwr Brenton Harrison Tarrant wrth y barnwr nad oedd ef yn gwrthwynebu’r ddedfryd.

Fe wnaeth yr ymosodiadau ar bobol yn gweddïo ym mosgydd Al Noor a Linwood arwain at lywodraeth Seland Newydd arwain at gyflwyno cyfreithiau newydd yn gwahardd y mathau mwyaf peryglus o ddryllau awtomatig.

Achosodd yr ymosodiadau newidiadau i brotocolau cyfryngau cymdeithasol wedi i’r saethwr ddarlledu ei ymosodiad yn fyw ar Facebook, lle cafodd ei wylio gan gannoedd o filoedd o bobol.