Mae saethwr Mosque Seland Newydd wedi dweud wrth farnwr nad yw’n bwriadu siarad yn ei wrandawiad dedfrydu.

Cafodd Brenton Harrison Tarrant gyfle i siarad ar ddiwrnod olaf y gwrandawiad, lle mae 90 o oroeswyr ac aelodau teuluoedd wedi siarad am yr ymosodiadau ar ddau fosg fis Mawrth y llynedd, pan fu farw 51 o bobol.

Roedd y llofrudd wedi diswyddo ei dîm cyfreithiol, ond cafodd cyfreithiwr wrth gefn ei benodi yn yr Uchel Lys yn Christchurch.

Dywedodd Philip Hall, y cyfreithiwr wrth gefn, y byddai’n gwneud datganiad byr ar ran ei gleient.

Mae’r gŵr 29 oed wedi pledio’n euog i lofruddio, ceisio llofruddio a brawychiaeth.

Mae nifer o’r dioddefwyr ac aelodau’r teuluoedd sydd wedi siarad yn y gwrandawiad wedi gofyn i’r barnwr roi’r gosb fwyaf difrifol – oes o garchar heb y posibilrwydd o barôl.

Diffyg emosiwn

Mae’r gwrandawiad wedi rhoi’r cyfle i oroeswyr ac aelodau’r teuluoedd wynebu Brenton Harrison Tarrant.

Dyw e ddim wedi dangos llawer o emosiwn yn ystod y gwrandawiad.

Mae wedi gwylio’r siaradwyr, gan nodio’i ben o dro i dro neu grechwenu ar sylwadau sydd wedi cael eu gwneud amdano.

Un o’r rhai sydd wedi bod yn siarad yn y gwrandawiad ydi Ahad Nabi, wnaeth golli ei dad yn yr ymosodiad.

Syllodd ar Brenton Harrison Tarrant gan godi bys arno gyda’i ddwy law.

“Roedd dy dad yn ddyn biniau, ac rwyt ti’n sbwriel cymdeithas,” meddai.

Aeth yn ei flaen i ddweud fod Brenton Harrison Tarrant yn ddafad oedd wedi gwisgo siaced blaidd am ddeng munud o’i fywyd, ac mai dim ond tân oedd yn disgwyl amdano’n awr.

Cafodd datganiad gan dad y dioddefwr ieuengaf, Mucaad Ibrahim oedd yn dair blwydd oed, hefyd ei ddarllen yn y llys.

Dywedodd y tad fod ei fab wrth ei fodd yn chwarae yn y mosg ac yn ffrindiau gyda’r holl addolwyr, hen ac ifanc.

“Wnaeth dy erchyllter ddim cyflawni’r hyn roeddet ti’n ei ddisgwyl,” meddai datganiad y tad.

“Yn hytrach, mae hyn wedi uno cymuned Christchurch, wedi cryfhau ein ffydd, wedi codi urddas ein teuluoedd, ac wedi uno ein cenedl heddychlon.”