Roedd torcyfraith i lawr 25% yn ystod misoedd Ebrill a Mai o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd, yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau (ONS).

Roedd y ffigwr 5% yn llai ym mis Mawrth o’i gymharu â Chwefror hefyd.

Ond mae’r adroddiad yn dangos bod cynnydd mewn torcyfraith wedyn wrth i gyfyngiadau’r coronafeirws gael eu llacio.

Roedd cynnydd o 22% mewn troseddau’n ymwneud â chyffuriau ym mis Ebrill a 44% ym mis Mai o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Yn ôl adroddiad, mae’r ffigurau fel y maen nhw o ganlyniad i dduliau’r heddlu o fynd i’r afael â throseddau yn ystod y cyfnod clo.