Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi cyfres o luniau camerâu cylch-cyfyng wrth apelio am wybodaeth am nifer o bobol maen nhw’n awyddus i siarad â nhw am sawl achos o ladrata yn Ninbych y Pysgod.

Am oddeutu 2 o’r gloch y bore ar Awst 10, torrodd unigolion i mewn i ganolfan bad achub RNLI y dref a chafodd arian ei ddwyn o focs arian elusennol.

Mae’r heddlu’n credu bod gan yr unigolion yn y lluniau wybodaeth am y digwyddiad hwnnw.

Dinbych y Pysgod
Llun yr heddlu

Mae ymchwiliad i ddigwyddiad arall ar y gweill hefyd, ar ôl i focs arian elusennol Cymdeithas y Shipwrecked Mariners gael ei dorri, gyda swm o arian wedi’i ddwyn.

A chafodd ffenest ei gwthio ar agor yn Café Denis y dref, a’r til wedi cael ei symud oddi yno a’i ganfod yn ddiweddarach heb arian.

Digwyddodd y cyfan dros nos rhwng Awst 9 a 10.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.