Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wrth groesffordd rhwng “adferiad neu amherthnasedd” wrth i ras arweinyddiaeth ddod i ben heddiw (dydd Mercher, Awst 26).
Dywed Layla Moran, un o’r ymgeiswyr, fod y Democratiaid Rhyddfrydol “yn ymladd am eu bodolaeth” wrth i’r bleidlais gau yn ei gornest yn erbyn y ceffyl blaen Syr Ed Davey.
Collodd yr arweinydd blaenorol Jo Swinson ei sedd yn yr etholiad cyffredinol fis Rhagfyr, wrth i nifer aelodau seneddol y blaid ostwng i 11.
“Ar ôl degawd o ddirywiad, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wrth groesffordd rhwng adferiad neu amherthnasedd,” meddai Layla Moran.
“Rwy’n annog pobol i gymryd y cyfle hwn i adnewyddu’r blaid, fel ein bod yn gallu trawsnewid y wlad.
“Mae gan ein plaid gyfle i ffynnu, nid dim ond i oroesi.
“Byddai fy ethol i’n arweinydd yn anfon neges glir ein bod yn symud ymlaen.”
“Tasg enfawr”
Mae’r ymgeisydd arall, Syr Ed Davey, sydd â gwefan ddwyieithog, Saesneg a Chymraeg, yn dweud bod y blaid yn wynebu “tasg enfawr i ailadeiladu”.
“Dw i’n credu y bydd fy ymgyrch am gymdeithas decach, gwyrddach a mwy goddefgar yn sicrhau bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn cynnig atebion i’r problemau mae ein pobol a’n gwlad yn eu hwynebu,” meddai.
“Pwy bynnag sy’n ennill, mae hi’n hanfodol bod y blaid yn uno, yn gweithio gyda’n gilydd ar yr heriau sydd yn ein hwynebu ac yn parhau i amddiffyn y bobol mewn cymdeithas sydd ein hangen fwyaf.”
Bydd enw arweinydd newydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau (Awst 27).