Fe fydd canolfan sgïo Olympaidd yng Nghaliffornia yn newid ei enw oherwydd fod yr enw presennol yn sarhau menywod brodorol yr Unol Daleithiau.

Squaw Valley oedd y lleoliad ar gyfer Gemau Olympaidd y Gaeaf yn 1960.

Daw’r penderfyniad yn dilyn ymgynghoriad â sawl llwyth brodorol ac ymchwil i hanes yr enw.

Mae’n bosib fod yr enw’n golygu “dynes” ar un adeg ond fod y term wedi dod yn fwy sarhaus dros y cenedlaethau a’i gamddefnyddio wedyn fel sarhad.

Bydd y ganolfan yn ceisio dod o hyd i enw newydd ar unwaith, ac mae disgwyl iddo gael ei gyhoeddi’r flwyddyn nesaf.

Yn dilyn llofruddiaeth George Floyd, dyn croenddu, ym Minneapolis, mae sefydliadau ledled yr Unol Daleithiau wedi bod yn ailfeddwl eu henwau.

Yn eu plith mae tîm pêl-droed Americanaidd y Washington Redskins a’r grawnfwyd Aunt Jemima Oats.