Mae busnesau bach wedi galw am ymestyn y cynllun bwyta ‘Eat Out to Help Out’.

Daw hyn wrth i’r cynllun poblogaidd, sy’n lleihau pris bwyta allan dair gwaith yr wythnos, ddod i ben ddiwedd mis Awst.

Mae’r cynllun wedi helpu’r diwydiant lletygarwch i ymdopi â phandemig y coronafeirws.

A nawr, mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) wedi galw ar weinidogion i ymestyn y cynllun tan fis Medi.

“Mae’r cynllun ‘Eat Out to Help Out’ wedi bod yn llwyddiant ysgubol wrth ddenu pobol yn ôl i’r stryd fawr ac i ganol trefi,” meddai Mike Cherry, cadeirydd y Ffederasiwn.

“Mae angen ei ymestyn er mwyn parhau gyda’r gefnogaeth allweddol mae’n ei darparu i fusnesau bach.

“Byddai estyniad o fis yn mynd yn bell i helpu busnesau sydd yn ceisio ymdopi mewn cyfnod o argyfwng.”