Bydd Elin Jones, Llywydd Senedd Cymru, yn cerdded 60 milltir fis nesaf i godi arian ar gyfer Uned Cemotherapi Bronglais.

Fel rhan o her elusennol ‘60 ym mis Medi’, mae elusennau iechyd Hywel Dda yn gofyn i gyfranogwyr feddwl am weithgaredd wedi’i seilio ar y rhif 60 a’i gwblhau yn ystod y mis.

“Rwy’n wirioneddol awyddus i gefnogi cael Uned Cemotherapi bwrpasol newydd ym Mronglais,” meddai Elin Jones.

“Mae cryn dipyn o godi arian wedi’i wneud eisoes ac mae’r bwrdd iechyd yn cefnogi’r datblygiad.

“Ond mae angen mwy o arian ac rydw i eisiau cefnogi Dr Elin Jones a’i thîm gofal canser i gael yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i adeiladu ar eu gwaith rhagorol ym Mronglais.

“Nid wyf yn adnabyddus am fy ngalluoedd athletaidd, felly’r achos da hwn yw’r cymhelliant sydd ei angen arnaf i fynd allan i gerdded – a chadw’n ffit hefyd!”

Mae’r bwrdd iechyd yn annog unrhyw un sydd am fynd ati i wneud yr her i gadw pellter cymdeithasol.

Llwyddiant Apêl Covid-19 Hywel Dda 

Ym mis Mawrth, cafodd Apêl Covid-19 Hywel Dda ei lansio mewn ymateb i’r ceisiadau roedd y bwrdd iechyd wedi’u derbyn gan y cyhoedd.

Erbyn i’r apêl gau ddiwedd fis Mehefin, roedd dros £100,000 wedi’i godi, gan gynnwys £50,000 gan Rhythwyn Evans o Silian ger Llanbedr Pont Steffan a gerddodd o amgylch ei gartref 91 o weithiau.

Wrth lansio’r her elusennol newydd, diolchodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, am gefnogaeth Swyddfa’r Llywydd.

“Rydym yn ddiolchgar i Swyddfa’r Llywydd a phawb arall sydd wedi cofrestru i gymryd rhan yn her ‘60 ym mis Medi’,” meddai.

“Mae eu hymdrechion yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau cleifion a staff y GIG yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.”