Mae lefelau lles plant Cymru ymhlith yr isaf ar draws 35 o wledydd, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd.
Mae tîm WISERD (Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd) y brifysgol wedi cynnal arolwg o fwy na 2,600 o blant o bob cwr o Gymru i fesur eu hapusrwydd, boddhad a lles seicolegol, yn ogystal â faint o barch maen nhw’n teimlo maen nhw’n ei gael a’r llais maen nhw’n ei gael wrth wneud penderfyniadau.
Fe wnaeth yr arolwg ddangos bod gan blant hŷn lefelau lles is na phlant iau, a’u bod nhw’n teimlo’n drist, dan straen ac wedi diflasu’n ddiweddar.
Yn yr ysgol mae’r plant o bob oedran yn teimlo’r boddhad lleiaf, ond bechgyn sydd â’r lefelau lles isaf yng Nghymru ar y cyfan.
Prosiect bydoedd plant
Mae’r arolwg yn rhan o’r prosiect Bydoedd Plant ehangach, sef astudiaeth o les plant.
Cafodd 128,000 o blant ar draws 35 o wledydd eu holi rhwng 2016 a 2019.
Dyma’r tro cyntaf i blant Cymru gael eu cynnwys yn yr arolwg.
Lles yng Nghymru
Cafodd plant Cymru a gwledydd eraill eu holi am fywyd teuluol a’r cartref, ffrindiau, yr ysgol a’r ardal lle maen nhw’n byw.
Roedd eu lefelau lles yn is o’u cymharu â’r lefelau mewn gwledydd eraill ar y cyfan.
Roedd gan blant 12 oed lefelau isel o les seicolegol – roedd hyn yn cynnwys cyfrifoldebau a defnydd o amser, pa mor gyfeillgar yw pobol eraill tuag atyn nhw, addysg a’u teimladau o obaith am y dyfodol.
Er bod lefelau plant Cymru’n isel ar draws y meysydd i gyd, dim ond 6.3% oedd â lefelau lles isel yn gyson.
Roedd y lefelau’n arbennig o drawiadol wrth drafod yr ysgol, gyda lefelau isel mewn ysgolion uwchradd yn ymwneud â pherthnasau ag athrawon, ffrindiau a phlant eraill, yr hyn maen nhw’n ei ddysgu yn yr ysgol a’u bywyd ysgol yn gyffredinol.