Mae dau o bobol wedi’u saethu’n farw ac mae un arall wedi cael anafiadau ar ôl trydedd noson o brotestio yn Wisconsin.
Daw’r protestiadau yn Kenosha ar ôl i Jacob Blake, dyn croenddu, gael ei barlysu ar ôl i’r heddlu ei saethu saith gwaith yn ei gefn.
Mae un person wedi cael anafiadau difrifol yn y digwyddiad am 11.45yh, ond dydy ei fywyd ddim mewn perygl, yn ôl yr heddlu.
Mae ymchwiliad ar y gweill.
Jacob Blake
Mae Jacob Blake wedi cael ei barlysu yn dilyn y digwyddiad sbardunodd y protestiadau, ac mae ei deulu’n dweud y byddai’n “wyrth” pe bai’n gallu cerdded eto.
Mae cyfreithiwr y teulu’n galw am ddiswyddo’r plismon oedd wedi ei saethu yn ei gefn tra bod ei blant yng nghefn y car roedd e wedi cael ei lusgo allan ohono.
Cafodd y digwyddiad ei recordio ar ffôn symudol, dri mis yn unig ar ôl i’r heddlu ladd George Floyd ym Minneapolis.
Yn ôl cyfreithwyr, mae cryn niwed wedi cael ei achosi i asgwrn cefn Jacob Blake ac mae amheuaeth iddo gael niwed sylweddol i’w organau hefyd.
Mae’r cyfreithwyr yn paratoi i ddwyn achos yn erbyn yr heddlu.
Yn ôl yr heddlu, cawson nhw eu galw i ddigwyddiad ‘domestig’.