Bydd aelodau o Heddlu Gogledd Cymru, wardeiniaid Parc Cenedlaethol Eryri, a swyddogion diogelwch preifat yn patrolio pentref Llanberis dros Ŵyl y Banc er mwyn sicrhau bod ymwelwyr yn bihafio.
Mae’r holl ardal wrth droed yr Wyddfa a Llyn Padarn wedi bod yn anhygoel o brysur tros yr Haf, wrth i bobol beidio fynd dramor am wyliau oherwydd y coronafeirws.
Mae barn y Cynghorydd Kevin Morris Jones, sy’n cynrychioli Llanberis a Nant Peris ar Gyngor Gwynedd, yn bendant – “dydy fusutors ddim yn parchu Llanberis,” meddai, gan ychwanegu eu bod nhw’n rhegi ar drigolion lleol pan maen nhw’n cwestiynu unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dywed rhai o hoelion wyth y pentref wrth gylchgrawn Golwg fod pobol yn gwersylla’n anghyfreithlon, yn gadael llanast er eu hôl ac yn cachu mewn llefydd cyhoeddus.
Yn ôl Siân Gwenllïan, Aelod o’r Senedd dros Arfon, mae hi’n “gyfnod pryderus i drigolion Llanberis, ac mae nifer yn teimlo’n anniogel yn eu pentref eu hunain”.
Er mwyn “ceisio gweld beth yw’r ffordd orau ymlaen” o ran problemau sy’n cynnwys sbwriel a gwersylla’n anghyfreithlon, mae AS Arfon wedi cynnal trafodaethau gyda Chyngor Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri, a Heddlu Gogledd Cymru.
“Rwy’n falch o gael ar ddeall y bydd Cyngor Gwynedd yn cyflogi cwmni diogelwch [ar gost y trethdalwr] i sicrhau fod pobl yn ymddwyn yn gyfrifol ym Mharc Padarn,” meddai Siân Gwenllïan.
“Rwy’n falch hefyd o gael gwybod y bydd y cwmni diogelwch yn canolbwyntio ar ardal y Glyn, ar ôl i’r wardeiniaid orffen gweithio, a hynny yn sgil cwynion ynglŷn ag achosion o gampio gwyllt a chriwiau yn ymgynnull gyda’r hwyr.”
Dywedodd ei bod yn gobeithio y bydd y cwmni’n dechrau gweithio cyn gynted â phosib, ac yn bendant cyn Gŵyl y Banc y penwythnos hwn.
Pentref Taclus Llanberis?
Un sydd wedi cael llond bol ar y sefyllfa yw Pat Pitts – neu ‘Pat Llanberis’ fel y gelwir hi’n lleol.
Yr wythnos ddiwethaf roedd ymwelwyr wedi gadael cymaint o lanast o gwmpas y pentref fel bod Pat Pitts wedi cael llond bol, ac fe ddaru hi e-bostio Siân Gwenllïan AS Arfon.
“O fewn wythnos, chware teg, mi wnaeth hi’n dda,” meddai Pat Pitts, “er mai pentref bach ydan ni a dw i’n siŵr bod ganddi bethau mwy pwysig i’w gwneud. Ond mewn wythnos roedd hi wedi sortio i ni gael security i hel y bobol sy’n campio’n anghyfreithlon. Mae hi wedi sortio lot – bod y Cyngor yn dod yma’n amlach i wagio biniau. Dw i’n meddwl dylen nhw roi biniau mawr ar ochr y lagŵn achos mae yna filoedd yn mynd yna a dydi chwe bin ddim yn ddigon. Dim ond dau oedd yna un tro, nes wnaethon ni gwffio i gael mwy!”
Mae tair blynedd ers i Pat Pitts fynd ati i sefydlu criw o wirfoddolwyr i hel sbwriel.
“Am fy mod yn gweithio’n llawn amser, doeddwn i byth yn mynd rownd Llanberis llawer. Ond pan ges i gi bach a mynd am dro, roeddwn i’n gweld llanast mawr yn bob man ac roedd o’n mynd yn waeth.”
Er ei bod yn codi’r sbwriel wrth fynd, roedd o’n ormod o waith i un person, meddai.
“Ac ro’n i’n gweld pobol eraill wrthi hefyd yn codi be oedden nhw’n gallu, a be wnes i oedd ymuno efo facebook a gofyn a oedd gan rywun ddiddordeb cychwyn grŵp.”
Ar y tro cyntaf, aeth 20 ohonyn nhw allan a chasglu 17 o fagiau bin llawn sbwriel.
“Y broblem ydi bod gan y Cyngor ddim digon o finiau o gwmpas – yn fy marn i beth bynnag,” meddai Pat Pitts.
Rhoddwyd y gorau i gasglu sbwriel oherwydd y coronafeirws, ond mae’r grŵp yn gobeithio ail gychwyn arni ym mis Medi.
Dros y gaeaf maen nhw’n tacluso unwaith y mis, ond pan mae’r tymor gwyliau yn cychwyn o gwmpas y Pasg, mae’n rhaid hel sbwriel bob wythnos.
“Er bod y cyfyngiadau [coronafeirws] wedi eu codi rydyn ni fel grŵp yn rhy ofnus i fynd allan efo cymaint o bobol o gwmpas,” eglura Pat Pitts.
“Rydan ni am drïo mis Medi i weld sut rydan ni’n ymdopi, ac os ydi o ddim yn gweithio’n dda, mi wnawn ni aros i’r fusutors fynd.”
Yn y cyfamser, meddai, “os fysa yna well biniau fydda hynny’n helpu yn ystod yr amser prysuraf fel hyn … rydan ni hefyd wedi bod yn glanhau graffiti ac yn rhoi bagiau baw ci i fyny drwy’r pentref.”
Ond o gysidro’r llwyth gwaith a nifer y gwirfoddolwyr sydd ei angen i gadw’r pentref yn daclus, mae Pat Pitts o’r farn bod yna le i’r awdurdod lleol wneud mwy.
“Dw i’n meddwl y dylen nhw [Cyngor Gwynedd] gael – fel ers talwm – dyn yn glanhau’r lôn, yn codi’r sbwriel a ballu. Ond wnawn nhw ddim – maen nhw’n dibynnu ar bobol fel ni rownd y sir i gyd.”
Mae gan Pat Pitts gydymdeimlad efo sefyllfa ariannol Cyngor Gwynedd, ond mae hi’n llawn sylweddoli hefyd bod pentref Llanberis yn dod a llawer o arian i mewn i goffrau’r cyngor sir.
“Mae hi’n anodd efo pres i bawb dydi, ond dw i yn meddwl y dylen nhw fuddsoddi mwy – os ydyn nhw’n hyrwyddo Llanberis fel [lle i ymweld], wel, mi ddylen nhw roi mwy o bres i mewn.”
Fe aeth Pat Pitts ar ofyn Cyngor Gwynedd i wneud gwaith cynnal a chadw ar balmentydd y pentref, meddai, er mwyn eu gwneud yn addas ar gyfer yr anabl.
“Mae gen i chwaer mewn cadair olwyn – gafodd hi sepsis ar ôl llawdriniaeth fawr – ac mae trio ei pwshio i lawr y pentref [yn anodd].
“Dw i wedi riportio ers blwyddyn a hanner bod dim drop curbs a phethau. Ddaeth dyn i fy ngweld yr wythnos ddiwethaf a dw i wedi cael ateb yn ôl yn dweud: ‘mae o ar y rhestr ond dydi o ddim yn flaenoriaeth!’ Felly tan mae rhywun yn brifo… mae o mor beryg fe all rhywun ddisgyn allan o gadair olwyn neu motor scooter ynte. Dydyn nhw ddim yn buddsoddi digon yn y pentref.”
Cae’r Ddôl Llanberis – problemau’n parhau
Mae cylchgrawn Golwg wedi bod yn amlygu rhai o’r problemau mae trigolion Llanberis yn eu cael gyda nifer yr ymwelwyr i’r pentref ers cyn pan demig y coronafeirws.
Ac mae’r llecyn o dir o’r enw Cae’r Ddôl sy’n eiddo i Gyngor Gwynedd, ac sydd wedi’i leoli tu ôl i Ganolfan y pentref, wedi ei grybwyll ym mhob erthygl.
Cyn y cyfnod Covid, roedd cwynion fod cymaint â 2,000 o redwyr mewn anturiaethau awyr agored yn amharu ar dawelwch a defnydd lleol o Gae’r Ddôl ar benwythnosau a gwyliau ysgol.
Nid Eric Baylis yw’r unig berson lleol i ddweud wrth Golwg ddechrau’r wythnos fod y problemau’n parhau gydag ymwelwyr sy’n defnyddio Cae’r Ddôl.
“Roedd y ferch yn mynd a’r ci am dro fore Sul diwethaf ac mi ddoth ar draws pobol o Lerpwl, dw i’n meddwl, yn campio yn Cae’r Ddôl. Roedd hi mor disgusted efo’r llanast oedden nhw’n ei wneud yno, mi daclodd hi nhw a chael lot o verbal abuse. “Roedden nhw wedi gwneud tân ar ganol llwybr cyhoeddus ac wedi gadael cadeiriau ac ati ar eu holau,” meddai Eric Baylis sy’n ddiolchgar i AS Arfon am gamu fewn i’r ffrae a sicrhau fod Cyngor Gwynedd yn gwneud eu gwaith.
“Yn ôl Siân Gwenllïan maen nhw’n gwagio’r biniau rŵan ddwywaith y dydd – rydan ni wedi gofyn am fwy o finiau. “Wnaethon ni fynd am fwy yn ardal y lagŵns [ger Llyn Padarn] a beth wnaeth [Cyngor Gwynedd] oedd symud tri o faes parcio ar lan y llyn i’r lagŵns.
“Rŵan, ar benwythnos, does yna ddim digon o finiau yn y maes parcio ar lan y llyn, ac i mi mae hynny’n hurt. Felly pan mae hi’n braf ac mae pobol yn cael picnic a têc-awê ar lan y llyn, does yna unlle iddyn nhw roi eu sbwriel. Ac maen nhw’n ei osod wrth ymyl y bin – sydd wedi creu problem ychwanegol,” meddai Eric Baylis sy’n dweud ei fod yn hel y sbwriel efo’i fan “os yw hi wedi bod yn brysur iawn” am fod cymaint ohono fo.
Trigolion yn clirio carthion dynol
Mae toiledau cyhoeddus Llanberis yn cau fin nos ac nid sbwriel yn unig mae ymwelwyr – llawer ohonyn nhw yn gwersylla’n anghyfreithlon – yn ei adael ar ôl i wirfoddolwyr lleol ei glirio.
Mae Eric Baylis wedi bod yn hel sbwriel o gwmpas ei bentref ers blynyddoedd lawer, ond yn fwy diweddar “dw i wedi bod yn dod ar draws budreddi pobol – mae honno yn broblem ar hyd y pentref,” meddai.
“Ar fore dydd Sul mae yna blant bychain yn dod efo ni – nhw ydi dyfodol y pentref ac rydan ni’n eu dysgu nhw i helpu cadw’r lle yn fwy twt.
“Rydan ni’n eu rhybuddio nhw i beidio codi tissues rhag ofn bod yna fudreddi oddi tanyn nhw. A choeliwch chi fi, rydym yn dod ar draws rhywbeth felly bob bore dydd Sul – yn y meysydd parcio, yn y lagŵns … Un lle sydd yn un drwg ydi maes parcio preifat Mynydd Gwefru – wrth fod fanno wedi cau, dydyn nhw ddim yn codi am barcio. Pan maen nhw’n dod lawr o’r Wyddfa maen nhw’n gwneud eu busnes yn y coed sydd wrth ymyl lle maen nhw’n parcio.”
Yr un yw’r broblem ym maes parcio Castell Dolbadarn sy’n eiddo i Gyngor Gwynedd.
“Mae yna Park and Ride yn fanno ac maen nhw’n parcio yna, dod lawr o’r mynydd eto a does yna ddim toiledau yn agos i fanno …”
Mae llawer o bobol sy’n dod i fwynhau mwynder Dyffryn Peris yn dod mewn faniau ac yn cysgu ynddyn nhw dros nos, eglura Eric Baylis.
“Dydi o’n ddim byd i chi weld 15 o faniau wrth ymyl y lagŵns – dim campervans iawn dw i’n feddwl, ond faniau heb doiled.
“Felly mae hynny’n broblem hefyd a chlywais i erioed am warden traffig yn ffeindio neb fy hun. Mae yna ddigon o arwyddion yn dweud wrthyn nhw i beidio parcio dros nos ond does yna neb yn stopio nhw!”
Mae’r Cynghorydd Kevin Morris Jones, sy’n cynrychioli Llanberis a Nant Peris, yn cadarnhau mai’r Cyngor Cymuned “sy’n cadw’r toiledau cyhoeddus i fynd”.
Gan mai dim ond £4,000 mae Cyngor Gwynedd yn ei roi iddynt ar gyfer y gwaith, dyw’r Cyngor Cymuned ddim yn gallu fforddio’r “gost ychwanegol” o gadw’r toiledau ar agor yn hwyr, meddai.
Angen gwell rheolaeth
Mae’r Cynghorydd Kevin Morris Jones wedi bod yn galw ar Gyngor Gwynedd i gael gwell rheolaeth ar dwristiaeth ers tro ac mae Golwg wedi bod yn gyfrwng iddo fo a phobol leol i ddweud eu dweud.
Ym mis Mawrth eleni, gyda phryderon yn lleol am y coronafeirws, roedd pobol yn dal i heidio i Lanberis a Nant Peris er bod busnesau lleol ar gau.
Bryd hynny – yn absenoldeb unrhyw weithredu gan yr awdurdodau – fe ddaru pobol leol gymryd y mater i’w dwylo eu hunain a gosod baneri yn gofyn i bobol gadw draw.
Ar gychwyn y cyfnod clo fe ddywedodd y Cynghorydd Kevin Morris Jones wrth Golwg “…maen nhw’n parcio ar ochor y lôn sy’n gwneud y lle’n beryg. Ac maen nhw’n cysgu yn eu campervans yn lle dydyn nhw ddim i fod wrth ymyl y lagŵns …
“Fe wnaeth yna un person ddreifio rownd y campervans oedd wedi parcio wrth y lagŵns [ar fore dydd Sul] yn canu corn a phethau yn rhoi wake up call iddyn nhw. Felly maen nhw wedi cael y neges rŵan – mae pobol yn dechrau troi yn eu herbyn nhw rŵan.”
Ddechrau’r wythnos hon, roedd barn y cynghorydd lleol yn glir. “Mae fusutors yn dod i Lanberis a gwneud fel maen nhw eisio – dydyn nhw ddim yn parchu’r ardal. Beth sy’n gwylltio pobol Llanberis ydi bod nhw’n dod yma, jest campio yn lle maen nhw eisio yn lle mynd i campsites, a gwneud barbeciws yn lle maen nhw eisio …”
A dydy llawer ddim yn gwario’n lleol chwaith, yn ôl y cynghorydd oedd wedi ei synnu pa mor dawel oedd un dafarn leol pan aeth allan am bryd o fwyd.
“Mae o’n le neis ac mi wnes i sylwi doedd yna ddim llawer o bobol ddieithr yna. Efo’r holl Air BnB’s o gwmpas ro’n i’n sylwi wrth fynd adra eu bod nhw’n eistedd yn y tai ac yn bwyta yno – felly dydyn nhw ddim yn gwario, na?”
Mae’r ymwelwyr hefyd yn hoff iawn o fynd am farberciw i Barc Padarn – sydd, yn ôl Cyngor Gwynedd ar eu gwefan, yn barc “… 800 acer gyda golygfeydd trawiadol ar draws Llyn Padarn, Castell Dolbadarn ac Eryri.”
Yn Saesneg mae’r Cyngor yn dweud fod gan Barc Padarn, “… some of the most spectacular scenery in North Wales.”
Yn ôl Kevin Morris Jones, pan mae pobol leol yn gofyn i ymwelwyr beidio rhoi eu barberciws ar ben y byrddau picnic pren, un math o ateb maen nhw’n ei gael yw: “Fuck off! What’s it to you?”
“Mae pobol leol wedi cael llond eu bol ond mae [Cyngor] Gwynedd yn desperate i gadw’r Wyddfa ar agor – dyna eu prif incwm nhw mewn ffordd.”
O’r holl broblemau, beth sy’n rhoi’r mwyaf o gur pen i gynghorydd sir Llanberis?
“[Diffyg] parch – maen nhw’n dod i le prydferth fel hyn ac yn gadael eu marc yn bob man.”
“Adleoli problem barcio Pen-y-Pass i Lanberis!”
Mae Eric Baylis yn gefn i’w gymuned ers blynyddoedd lawer ac yn gwneud llawer iawn mwy ers ymddeol o fod yn ddyn tân. Mae o’n ymwneud efo’r carnifal lleol ac yn plannu blodau mewn hen gychod sydd i’w gweld ar gyrion y pentref ac o gwmpas Llyn Padarn.
“Rhyw ddigon ychydig” mae Cyngor Gwynedd yn ei wneud, meddai, “ond rydan ni’n swnian lot arnyn nhw!”
Mae o wedi “synnu” efo canlyniad yr holl drafod am broblemau parcio ym Mhen y Pass sy’n le poblogaidd ar gyfer cychwyn ar y daith i ben Y Wyddfa.
“Ateb Cyngor Gwynedd, mewn partneriaeth â Pharc Cenedlaethol Eryri a Heddlu Gogledd Cymru, oedd cau’r maes parcio. I mi mae hyn yn hollol hurt – maen nhw’n colli hwyrech £1,000 y dydd am fod lle yno i tua 100 o geir sy’n talu £10 y tro. “Mae o’n hollol hurt fod y tri chorff [cyhoeddus] yma yn dod i fyny efo’r datrysiad yma o gau’r maes parcio,” meddai Eric Baylis cyn bwrw ymlaen â’i stori.
“Y tro diwethaf’ fues i dros y Pass oedd bythefnos yn ôl ar fore Sul. Mi oedd yna pum dyn mewn hi-vis yng ngheg y maes parcio yn eu nadu nhw i fynd i mewn ac yn eu hel nhw i lawr i barcio yn Nant Peris a Llanberis. Maen nhw wedi adleoli problem Pen-y-Pass i lawr i Lanberis! Yn lle stopio i feddwl lle mae’r rheiny yn mynd i barcio wedyn ynte? Heb sôn am golli’r arian …”
Cyngor Gwynedd yn gwario £5,000 ar swyddogion diogelwch preifat
Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg eu bod nhw’n chwilio am ffyrdd newydd o ddatrys problemau parcio yn Llanberis ac ardal ehangach Yr Wyddfa.
“Fel Cyngor, rydym wedi bod yn cydweithio gyda Pharc Cenedlaethol Eryri i adnabod y ffordd orau o liniaru nifer y
cerbydau sy’n defnyddio’r meysydd parcio o fewn ffiniau’r Parc ar adegau prysur o’r flwyddyn,” meddai llefarydd y cyngor.
“Eleni, am y tro cyntaf, fel rhan o bartneriaeth yr Wyddfa, mae penderfyniad wedi’i wneud i gomisiynu ymgynghorwyr allanol i geisio adfer y sefyllfa.
Ac mae’r cyngor wedi cadarnhau eu bod yn cyflogi swyddogion diogelwch preifat i gadw trefn yn Llanberis gyda’r nos.
“Mewn rhai lleoliadau poblogaidd mae lleiafrif bychan o ymwelwyr yn anwybyddu’r rheolau gwersylla dros nos ac yn gadael sbwriel a llanast ar ei hôl,” meddai llefarydd.
“Tra bod staff y Cyngor yn taclo achosion o’r fath yn ystod y dydd, rydym wedi gweld nifer cynyddol o achosion ble mae unigolion yn cyrraedd gyda’r hwyr er mwyn osgoi ein swyddogion ac yn gwersylla’n wyllt dros nos ar dir Parc Padarn.
“Mewn ymateb i bryderon gan ein cymunedau lleol, rydym wedi trefnu i Gwmni Corvus Security Ltd, Bethesda, warchod safle Parc Padarn ynghyd â thraethau megis Morfa Bychan ac Abersoch tu allan i oriau gwaith arferol. Bydd y cwmni’n gyfrifol fod ymwelwyr yn parchu ein hamgylchedd a’n cymunedau lleol.
“Am chwe noson dros gyfnod Gŵyl y Banc mis Awst, mae’n debygol y bydd y gwaith diogelu ychwanegol yma’n costio oddeutu £5,000 i’r Cyngor.”