Bydd cyn-blismon Heddlu’r De yn ymuno â thîm Crimewatch Roadshow Live ar gyfer cyfres newydd ar BBC1 fis nesaf.

Bydd John Paul Davies yn ymuno â’r tîm fel gohebydd.

Mae’r rhaglen yn apelio am help y cyhoedd er mwyn datrys rhai o achosion mwyaf y Deyrnas Unedig.

Bydd y cyn-dditectif Ray Wilding a’r gyn-gyflwynwraig Michelle Ackerley yn dychwelyd i’r stiwdio.

Achos o gynnau tân

Ddeuddeg mlynedd ar ôl achos o gynnau tân yn Bolton, bydd y tîm yn clywed gan ddynes wnaeth golli ei mam a’i merch, yn ogystal â’r heddlu sy’n gweithio ar yr achos.

“Mae hi wedi bod yn amser anodd iawn i’r heddlu a thimau argyfwng yn ystod y pandemig a’r cloi mawr, felly mae unrhyw wybodaeth all ein gwylwyr ei gynnig i helpu yn bwysicach nag erioed,” meddai Ray Wilding.

Bydd Crimewatch Roadshow Live yn dychwelyd i BBC1 am 9.15yh ar Fedi 7 am gyfnod o dair wythnos.