Mae Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros ranbarth Gogledd Cymru, wedi mynegi pryder am amserau aros am ddiagnosis a thriniaeth, yn enwedig i gleifion canser, yn y gogledd.
Mark Isherwood yw llefarydd Cymunedau ei blaid, ac mae hefyd yn cadeirio nifer o bwyllgorau trawsbleidiol ar iechyd ac anableddau yn Senedd Cymru.
Daw ei sylwadau ar ôl iddo gyfarfod ag ymgyrchwyr o MacMillan i glywed am effaith y cyfnod clo ar wasanaethau canser yng Nghymru, wrth i’w hymgyrch newydd dynnu sylw at gleifion a allai fod wedi cael eu hanghofio.
Nifer o bryderon
Mae’n dweud iddo gael gohebiaeth gan sawl claf yn mynegi pryderon.
“Dw i wedi cael gohebiaeth gan breswylydd yng ngogledd Cymru yr wythnos hon yn amlinellu eu pryderon difrifol am oedi mewn profion diagnostig ar gyer canser a’r rhes hir o gleifion brys nad ydyn nhw’n ymwneud â’r coronafeirws sydd wedi cael eu rhoi yng nghefn y ciw, cyn gofyn am yr un lefel o wasanaeth â’r hyn sy’n cael ei gynnig 20 milltir i ffwrdd yn Lloegr,” meddai Mark Isherwood.
“Mae un arall, o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n wynebu trafferthion, wedi cael llawdriniaeth cataract wedi’i gohirio am gyfnod amhenodol.
“Mae un arall wedi cwestiynu aros am bedair wythnos am brawf gwaed yng ngogledd Cymru o’i gymharu ag aros am ddiwrnod yn Lloegr.
“Cafodd un arall ei roi ar restr aros am lawdriniaeth ym mis Ionawr ond wedi cael clywed na fydd llawdriniaethau nad ydyn nhw’n rhai brys yn mynd yn eu blaenau am fisoedd, ond mae llawdriniaethau tebyg sydd wedi’u gohirio yn Lloegr, er eu bod nhw’n hwyr, yn dychwelyd i’r hen drefn.
“Mae mwy a mwy o etholwyr yn gofyn ‘beth yw’r rheswm am y gwahaniaeth yma rhwng Cymru a Lloegr?’ yn nhermau pa mor gyflym caiff diagnosis ei wneud a thriniaeth ei chychwyn.
“Fel dywedodd fy nghydweithiwr, Paul Davies AS, arweinydd yr wrthblaid, yn gynharach heddiw, mae bywydau yn y fantol yng Nghymru.”